Skip to main content

Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1956, Aberdâr

Disgrifiadau

18 negatif : du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1956, Aberdar

Lluniau 1 - 3: Tim Glofa Windsor, Abertridwr. Selwyn Jones, fforman yn y pwll (yn gwisgo beret), Walter Smith (yn gwisgo cap), Bill Drake (yn gwisgo 'overalls'), a Dai Morris.
Llun 4: Tim Glofa Lewis Merthyr.
Lluniau 5 - 6: Tim Glofa Lewis Merthyr. Aelodau'r tim yw: Capten W Gibbons (crys gwyn a mwstash); Des Hailey (yn gwisgo 'sweater'); Gwyn Harris (crys gwyn a heb fwstash) a "Baldy" Heyden. Yma gwelir hwy yn torri'r wifren ac yn ei chlymu ac yn gweu y gwifrau at ei gilydd.
Llun 7: Tim o Lofa Great Mountain, y Tymbl. Capten W S Davies (heb ei grys), David Evans (mewn 'boiler suit'), Allan Marchant (mewn siaced) a Danny Harris. Yn y llun yma maent yn ceisio cael y wifren a weuwyd at ei gilydd I fod o'r un trwch a'r wreiddiol.
Llun 8: "John Kimber, beirniad y gystadleuaeth I lowyr, wrthi'n mesur trwch y wifren. Yn y llun hefyd y mae G Blackmore (gwallt cyrliog, cot olau), rheolwr cynhyrchu ardal Rhif 4 y bwrdd Glo Cenedlaethol, Tom Phillips, ysgrifennydd Lodge Aberman, Idris Richards, peiriannydd y Bwrdd Glo yn Aberaman, mewn wellingtons, a Doug Bowen (yn gwisgo bathodyn gwyn)."
Lluniau 9 - 10: "Ni welir byth mo'r cythraul canu yn codi ei ben ymysg y plant. Mae gwen ar ei wyneb wrth wthio tua'r rhagbrawf. A sut bynnag y daw hi - fe barhant I wenu."
Llun 11: Criw yn disgwyl i'r rhagbrawf ddechrau.
Llun 12: "Dim ond tri unawdydd a welir ar lwyfan y Brifwyl. Ond fe'u dewisir yn aml o ugeiniau o gystadleuwyr a fu'n ymarfer yn galed am flwyddyn, ac a gododd yn fore i fynd i'r rhagbrofion. Yr oedd Morfudd Lewis, 12 oed, o Faerdy, y Rhondda Fach, er engrhaifft yn un o 71 o ymgeiswyr ar ganu rhwng 12 a 16 oed."
Llun 13: Yn ystod wythnos yr Eisteddfod chwaraeai Morgannwg griced yn erbyn Awstralia yn Abertawe.
Llun 14: "Nid aelodau o'r Orsedd ond dau ganwraid o Awstralia a helpodd i lorio gogoniant Morgannwg. Mckay (a elwir "Slasher" yng Ngorsedd y Cangarw) ac archer yn ei ddilyn, wedi i'r ddau sgorio dros gant yr un yn Abertawe cyn i'r Brifwyl agor. Aeth y "Slasher" yn "Slasher" yn wir - am unwaith. Dyma ei sgor fwyaf yma ym Mhrydain."
Llun 15: "Pob croeso i'r bandwyr i chwythu faint fyd a fynnont, wrth gwrs. Ond y botel a oedd yn bwysig i John Elwyn Richards o Glydach ar Dawe, ganol ddydd, ddydd Llun. Ac o drugaredd, dyma ei fodryb wrth law i'w hestyn iddo. Mae Melorse Bodycombe, y fodryb, yn ddeuddeg oed. Dyma ei hail ymweliad a'r Brifwyl. Nid yw John on naw mis; felly, ni raid ychwanegu na fu ef mewn 'run o'r blaen. Ond yn ol pob tebyg mae'n mwynhau'r profiad newydd."
Llun 16: Melrose Bodycombe a Elwyn Richards.
Llun 17: "Dyma groeso Gymraeg mewn gwisg ac iaith gan ddwy eneth landeg un ar bymtheg oed o Abercwmboi - Meinwen Llywelyn a Gaynor Morgan Rees. Mae'r ddwy yn negeswyr ar y maes yn Aberdar drwy'r wythnos. Roeddynt yn cystadlu mewn parti cyd-adrodd hefyd ac yn cymryd rhan yng nghyngerdd y plant nos Fawrth."
Llun 18: Mr Hugh Williams, Edern, Llyn.

Owner:
The National Library of Wales - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Crëwr:
Geoff Charles
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2020
Gwelediadau:
576
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment