Skip to main content

Eisteddfod Genedlaethol 1957, Llangefni

Disgrifiadau

25 negatif : du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol 1957, Llangefni.
Dim disgrifiad
Llun 1 - 2: Y lleian Eilis Malone a'i phartneres yn cael gwers ar ganu solffa 'Y Mochyn Du' gan Laura Jones, aelod o Gor Glannau Glaslyn ac aelod o staff 'Y Cymro'
Llun 3: Mr Emyr Williams, Dr T H Parry - Williams a Mr D Brynmor Anthony gyda'r disgyblion o ysgolion uwchradd Cymru a gafodd ysgoloriaethau gan Awdurdodau Addysg Cymru i ymweld a'r Brifwyl am yr wythnos
Llun 4: Fe werthodd Griff y cwbl, ac i Gymru ag ef. Saith mlynedd yn ol nid oedd Mr Griffith J Roberts o Radnor, Ohio, wedi gweld ei hen fro na'i deulu yng Nghymru er pan ymudodd i America yn 1898. "Yn 1950 y collais fy mhriod" meddai Mr Roberts "a dywedais wrthyf fy hunan 'Griff, mae'n rhaid i ti roi tro i'r hen wlad'. " Rhoes ocsiwn ar ei fferm a chroesodd For Iwerydd mewn pymtheg awr mewn awyren. Cafodd flas anghyffredin ar ei ymweliad. Daeth drosodd drachefn yn 1952 ac eleni, er fod yn 86 oed yr oedd Mr Roberts gyda'r mwyaf heuni ar faes y Brifwyl yn Llangefni. Un o Garn Fadryn yn Llyn yw ef. Ar ol gweini ar ffermydd y penrhyn a gweithio yn y glo yn Ne Cymru a Sir Gaerhirfryn daeth awydd drosta, pan yn 23 oed, i weld y byd a cheisio gwell bywoliaeth. Aeth i'r America a chyn setlo yn Radnor bi mewn gwahanol swyddi mewn deunaw talaith yno - o New Jersey i Galiffornia. Ni chafodd ond dwy flynedd o ysgol erioed, meddai, ond dysgodd gryn dipyn yn ysgol profiad. Bu'n rhaid iddo droi allan i weithio yn naw oed pan fu foddi ei dad ar un o longau bach Porthmadog. Ar ei ymweliadau a'r hen wlad erys Mr Roberts gyda'i chwaer yn Llangwnadl a rhydd dro heibio i deulu'r wraig mewn gwahanol ardaloedd yn y De. O gyffiniau Llanfair-ym-Muallt y daethai ei rhieni hi. Gyda Mr Roberts yn y darlun mae Mr E H Williams, Hen Golwyn, cyn-gadeirydd cymdeithas y Cymry ar Wasgar. Yn ystod y rhyfel diwethaf yr oedd Mr Williams yn Squadron Leader yn y Llu Awyr. Bu'n llywydd Cymdeithas Gymraeg Lluoedd Arfog Gwlad yr Ia ac ef oedd Golygydd 'Seren y Gogledd'.
Llun 5: Mr Griffith J Roberts, Radnor, Ohio, a Mr E H Williams, Hen Golwyn.
Llun 6: Cor Ysgol Ramadeg Dinbych, gyda Catherine Evans, yr arweinydd, a ddaeth o fewn un marc i'r cor buddugol yn y gystadleuaeth Cor Plant Deulais Cerdd Dant.
Llun 7: MrJ Howell Hughes, Lerpwl (canol) a wnaeth araith danbaid a huawdl fel llywydd yn y Brifwyl.
Llun 8: Mr Elwyn Jones, Llanaelhaearn, enillydd y 'Ruban Glas', prif wobr unawdyr yr Wyl.
Llun 9 - 10: Mr Elwyn Jones, Llanaelhaearn, enillydd y 'Ruban Glas'.
Llun 11: Parti Dawns buddugol Aelwyd Aberystwyth ar faes y Brifwyl.
Llun 12 - 13: Dim disgrifiad
Llun 14: Ymgeiswyr llwyddiannus yn arholiadau'r Orsedd.
Llun 15 - 16: Nodyn llawysgrif: Dr John Rowlands, y nofelydd a darlithydd.
Llun 17 - 18: Mr J O Roberts (chwith) enillydd y prif wobr am adrodd yn yr Eisteddfod.
Llun 19: Nodyn llawysgrif: Wil Vaughan, gohebydd i'r 'Cymro' o'r Alban (chwith).
Llun 20: Nodyn llawysgrif: Wil Vaughan, gohebydd i'r 'Cymro' o'r Alban (chwith) - gyda Margaret Williams Brynsiencyn.
Llun 21 - 22: Dim disgrifiad
Llun 23: Endaf Emlyn, Pwllheli, buddugol ar yr unawd bechgyn rhwng 12 a 16 oed.
Llun 24: Tawe Griffith (chwith), y codwr canu Eisteddfodol.
Llun 25: Dim disgrifiad

Owner:
The National Library of Wales - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Crëwr:
Geoff Charles
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2020
Gwelediadau:
870
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment