Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

30 negatif: du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol 1964, Abertawe

Llun 1: Yr oedd dagrau llawenydd yn llygaid Ann Winston, Drefach, Llandysul, pan ddeallodd ei bod wedi ennill am adrodd i rai o 15 i 18 oed. Torrodd un arall i lawr i wylo yn ystod y gystadleuaeth ac ar ol ailddechrau enillodd yr ail wobr.
Llun 2: Telynores ieuanc o Bluefield, West Virginia, yr America, yw Jane Daniels, a enillodd am ganu'r delyn I rai dan 18 oed.
Lluniau 3 - 4: Dwy o'r un ardal yw Jane Thomas (15 oed), a'i chyeilyddes, Helen Mai Jones (16 oed), sef Boduan, yn Arfon, a chyfarfu'r ddwy ar lwyfan yr ymgeiswyr yn y gystadleuaeth adrodd dan 15 oed.
Llun 5: Wedi ennill y gystadleuaeth i gorau ieuenctid, cafodd aelodau Cor Cymry Llundain fod eu harweinydd, Mr Alun Davies, yn rhy drwm iddynt i'w godi ar eu hysgwyddau. Er hynny nid oedd eu teyrnged iddo yn llai brwdfrydig.
Llun 6: Rhai o'r ymgwiswyr llwyddianus yn arholiadau'r Orsedd a urddwyd fore dydd Mawrth o'r chwith i'r dde yw: Eirianwen Thomas, Llanboidy, Adeline James, Cilgeti; Brenda Howells, Hebron (13 oed); Bety Thomas, San Cler; Glynwen Nicholas (14 oed), Hebron a Sylvia Howell (14 oed) Bancyfelin.
Llun 7: Parti Cerdd Dant buddugol Llwchwr ac yn ail yng nghystadleuaeth partion gwerin dan 16 oed
Llun 8 - 9: Parti Cerdd Dant Llwchwr ar y cae
Llun 10: Cor adrodd "Bois y Mynydd Du" Brynaman (15 - 18 oed) a gafodd yr ail wobr a chanmoliaeth arbennig y beirniad.
Llun 11: Cor a ffurfiwyd yn ddiweddar yw Cor Aelwyd Caerdydd, dan a arweiniad Alun Guy, a gipiodd gwpan "Y Cymro" a'r brif wobr yn y brif gystadleuaeth gorawl.
Llun 12: Cor Aelwyd Caerdydd ar y llwyfan.
Llun 13: Bardd o hil beirdd yw'r Parch. Alun R Williams, Cwmllinau, ym Maldwyn, a enillodd y wobr am yr englyn.
Llun 14: Enillwyd y cwpan i'r corau dan 18 oed gan Gor Llanberis am y trydydd tro, ac yr oedd llongyfarchiadau brwd yr wyl gan Huw Jones i Eirwen Pugh, yr arweinydd.
Llun 15: Parti Merched Caerdydd - buddugol yng nghstadleuaeth alaw werin dan 16 oed.
Llun 16: Leslie J. Drew, Cyfarwyddwr Addysg Tref Abertawe.
Llun 17: Yn y Brifwyl yn Abertawe gwelwyd cyflawni arbrawf bwysig gan y Cyngor Llyfrau Cymraeg. Rhoes y Cyngor grant i Jane Edwards, y nofelydd ifanc o Niwbwrch i'w galluogi, trwy gydwei thrediad Pwyllgor Addysg Mon, i adael gwaith ysgol am dri mis, a chanolbwyntio'n gyfangwbl ar ysgrifennu ei hail nofel. Cwblhawyd y nofel - "Byd o Gysgodion" - erbyn wythnos yr Eisteddfod a gwelir yma gadeirydd Pwyllgor Gwaith y Cyngor Llyfrau, Dr Henry Lewis, yn cyflwyno copi i'r awdur.
Lluniau 18 - 20: Cyflwyno llyfr i Jane Edwards.
Lluniau 21 - 23: Margaret Jones, gynt o Frynsiencyn, enillydd Gwobr Coffa Osborne Roberts, a rhuban glas y gystadleuaeth i unawdwyr o 18 i 25 oed.
Lluniau 24: Dau ddisgybl ysgol ramadeg o bob sir yng Nghymru a enillodd ysgoloriaeth i dreulio wythnos yn yr Eisteddfod.
Lluniau 25 - 27: Rhai o aelodau'r ddirprwyaeth i wahodd yr Eisteddfod i Aberafan yn 1966. Yn y rhes flaen y mae Mr Darwel Thomas, John Morris (Aelod Seneddol), Mrs Idwal Hopkins (Maeres), yr Henadur Idwal Hopkins (Maer), Y Parch. J. Idris Evans, Mr Graham Jenkins, ac eraill yn y cwmni yw Mr Gwyn Tudor Jones, Thomas Henry Jenkins, Mrs Hilda Owen a'r Parch David Williams
Llun 28: Dyfarnwyd y drydedd wobr i barti deulais Cerdd Dant Llanfair Caereinion, dan arweiniad Miss Mair Edwards ac yn eu cwmni i'w llongyfarch y mae Mr J A Davies, cadeirydd pwllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol y Drenewydd a'r Cylch.
Llun 29: Dyfarnwyd y drydedd wobr i barti deulais Cerdd Dant Llanfair Caereinion, dan arweiniad Miss Mair Edwards ac yn eu cwmni i'w llongyfarch y mae Mr J A Davies, cadeirydd pwllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol y Drenewydd a'r Ceylon.
Llun 30: H Bryn Williams yn ei gadair

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw