Eisteddfod Genedlaethol 1967, Y Bala
Disgrifiadau
25 negatif : du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol 1967, Y Bala.
Llun 1: Y Parch. Vivian Jones, 37 oed, gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Alltwen, Cwm Tawe a brodor o'r Garnant. Fe oedd yr un a ddaeth agosaf at ennill y Fedal Rhyddiaith. Atalwyd y Fedal.
Llun 2: Gerallt Jones, Garndolbenmaen yn derbyn y cwpan ag enillodd yn y gystadleuaeth unawd Cerdd Dant i rai rhwng deuddeg a phymtheg oed. Yn cyflwyno'r cwpan mae Alun Williams. (BBC).
Llun 3: Christine Main yn llongyfarch ei chwaer Stephanie ar ennill cystadleuaeth offeryn chwyth.
Llun 4: Dilys Cadwaladr yn cyfarch bardd y goron (Eluned Phillips). Hi yw'r unig ferch arall i ennill y coron y Genedlaethol yn y ganrif hon pan enillodd yn y Rhyl.
Llun 5: Cymraeg! - ond dyma y tro cyntaf iddynt ddod i Gymru. Tri sy'n rhugl yn y Gymraeg a'r Lydaweg fel ei gilydd, ar Faes yr Eisteddfod. Ar y chwith, y Tad Calves o Lydaw, ac ar y dde y Tad le Clerc hefyd o Lydaw. Mae'r ddau yn medru siarad Cymraeg rhugl er mai dyma'r tro cyntaf iddynt ddod i Gymru. Gyda hwy mae Mr J. H. Roberts, Pwllheli sy'n medru'n Llydaweg yn rhugl, 'yn well nag y medraf Saesneg', meddai ef.
Llun 6: Y Fonesig Edwards yn darllen anerchiad ei phriod ar lwyfan y Brifwyl.
Llun 7: Phillip Thomas, Cilthrew, Castell Nedd yn cael ei longyfarch ar ei fuddugoliaeth gan Gwenno Jones, Llanhaedr-ym-Mochnant a Margaret Hafesb Roberts, y Bala. Cafodd Phillips 91 o farciau am ganu'r piano yn y gystadleuaeth dan 15 oed.
Llun 8: Eluned Phillips, bardd y goron dydd Mawrth mewn orig o fwynhad o dan ei choron.
Llun 9: Iawn gadewch i fois yr Orsedd gael eu Corn Gwlad i dynnu sylw atynt eu hunain. Rhowch i mi le a phedwar corn ac mi wna innau stroc yn rhywle. Kevin Jones, un mis ar ddeg oed o Lanidloes. Mae ei dad yn aelod o fand Corris.
Llun 10: Stephen Knott, o Fanceinion, myfyriwr yn Abertawe, enillydd y ddawns unigol, gyda Terry Williams, ail (ar y chwith), a Peter Rowlands, Bae Colwyn, trydydd.
Llun 11: Phillip Morgan, Bebbington, gynt o Dreorci a enillodd ddwy gystadleuaeth gyda'r trombon yn yr Eisteddfod.
Llun 12: CYNRYCHIOLI CAERWYS - Daeth cynrychiolwyr o Gaerwys i'r Bala ddydd Llun i dynnu peth sylw at Wyl Fawr 1968.
Llun 13: CAMP RYFEDDOL BRUNO - Bruno Haarmann 21 oed, o Hambro. Astudiodd Ieitheg Gymharol yn y Brifwyl yn Hambro ac mae'r medru 8 iaith yn rhugl ac mae ganddo grap go lew ar ddwsin eraill. Daeth draw i Gymru i ddysgu tipyn o Gymraeg, a gwelir ef yma gyda John G. Jones, Rhydmain, ar Faes yr Eisteddfod.
Llun 14: Un o'r Gwladfawyr sydd yng Nghymru ar hyn o bryd yw Elveira Austin. Mae hi newydd orffen cwrs blwyddyn yng Ngholeg Harlech.
Llun 15: H. J. Hughes, Harlech.
Llun 16: Yr Archdderwydd Gwyndaf yn rhoi ei enw yn llyfr llofnodion dwy o'i edmygwyr wedi seremoni'r Orsedd.
Llun 17: Mrs Jennie Davies a San Cler a Mrs Dickins Jenkins o Lanelli a gafodd eu derbyn i Urdd y Wisg Wen.
Llun 18: Meic Parry, Llundain.
Llun 19: Mr. D. J. Davies, Cadeirydd y Bwrdd Croeso i Gymru.
Llun 20: Heulwen Owen, Beryl Wynne Jones a Mair Davies, y tair o Lansannan a enillodd y gystadleuaeth Triawd Cerdd Dant.
Llun 21: Mr. Ben G. Jones, Llundain.
Llun 22: Prif Gwnstabl W. Jones Williams, Heddlu Gwynedd.
Llun 23: Mr. J. Rhys Roberts, Llangollen.
Llun 24: Yr Artho J. R. Jones, Coleg y Brifysgol Abertawe.
Llun 25: Band Deiniolen a ddaeth yn gyntaf yn eu cystadleuaeth.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment