Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

22 negatif : du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol 1967, Y Bala.
Llun 1: Peter Morris o Drawsfynydd yn cadw mewn cysylltiad a'i ganolfan gyda'i radio symud a siarad.
Llun 2: R. A. Roberts, Dyserth, enillydd y Fedal Ddrama.
Llun 3: Cynan yn dangos i'r dyrfa o gwmpas y Maen Llog y clawr hardd i'r gyfrol a gyflwynwyd gan yr Archdderwydd Gwyndaf.
Llun 4: J. R. Jones, arweinydd, yn cyflwyno Cwpan y Cymro i Alun Guy, arweinydd Cor Ieuenctid Caerdydd. Enillodd y cor y wobr gyntaf yn nwy adran y corau.
Llun 5: Carys Davies, 19 oed, o Llandderfel, a gipiodd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth canu piano (agored).
Llun 6: Rhai o aelodau Band Mynydd y Garreg, Cydweli, yn bwrw golwg ar rifyn diweddaraf 'Lol' ar faes yr Eisteddfod.
Llun 7: Dim Disgrifiad
Lluniau 8 - 9: Cystadleuwyr ar yr unawd Cerdd Dant i rai rhwng deuddeg a phymtheg oed.
Llun 10: Mam y Fro yn seremoni'r Orsedd.
Lluniau 11 - 15: Dim Disgrifiad
Llun 16: Band Corris.
Lluniau 17 - 18: Dim Disgrifiad
Llun 19: Eluned Phillips y bardd coronog ar lwyfan yr Eisteddfod yn ystod seremoni'r coroni.
Lluniau 20 - 21: Dim Disgrifiad
Llun 22: Eluned Phillips y bardd coronog ar lwyfan yr Eisteddfod yn ystod y seremoni coroni.

 

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw