Eisteddfod Genedlaethol 1963, Llandudno
Disgrifiadau
18 negatif : du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol 1963, Llandudno.
Llun 1: Cor a ganodd yn Gymraeg a hwnnw'n Gymraeg rhagorol, oedd Cor Coleg Technegol Huddersfield. Dyfarnwyd y Cor yn drydydd yn y gystadleuaeth.
Llun 2: Y band buddugol yng nghystadleuaeth y bandiau pres, Dosbarth 'A', oedd Band Ystalyfera. Cynrychiolwyd y band gan Mr J Asaph Williams (cadeirydd y pwyllgor) i dderbyn cwpan catrawd Tiriogaethwyr Sir y Fflint.
Llun 3: Dyfarnwyd y drydydd wobr yng nghystadleuaeth partion deulais canu gwerin dan 15 oed i Barti'r Llan.
Llun 4: Pedwar o swyddogion ac aelodau pwyllgor yr adran celf a chrefft yn Eisteddfod Llandudno, o'r chwith i'r dde yw: R Glyn lloyd (ysgrifennydd), Mrs O M Roberts, Mri W J Griffiths (cadeirydd) a Powell Bowen.
Llun 5: Ymwelwyr llawn diddordeb yn yr Eisteddfod ddydd Llun oedd cynrychiolwyr Cymdeithas Genedlaethol Oireachtas yr Iwerddon, sef Miss Una Vi Lachlan, Miss Sian C Ni Murchadha; a chynrychiolydd Cymdeithas Mod genedlaethol yr Alban, sef Mr James Thompson, bardd coronog cyntaf yr Alban. Eglurir seremoni'r Orsedd iddynt gan yr Archdderwydd Cynan, Dilwyn Miles (ceidwad y cledd) a'r Arwyddfardd Erfyl Fychan.
Llun 6: Enillwyd yr ail wobr yng nghystadleuaeth yr adrodd i rai yn dysgu'r Gymraeg, gan Elaine Jones o Bontsenni.
Llun 7: Aeth cwpan 'Y Cymro', i'w ddal am flwyddyn, a'r anrhydedd ym mhrif gystadleuaeth y corau i Gymdeithas Gorawl Rhydaman. Yr oedd �200 o wobr yn rhodd Ymddiriedolaeth Edwin Stephen Williams. Enillwyd �100 yn ail wobr gan Gor Llwynhendy. Hywel G Evans sy'n dal y cwpan, arweinydd Cor Rhydaman.
Llun 8: Rhoes yr Eisteddfod Genedlaethol ei hanrhydedd uchaf posibl i Crwys, ddydd Llun, pan urddwyd ef yn Gymrawd. Cododd y dyrfa fel un gwr i'w gymeradwyo pan arwisgwyd ef gan Syr Thomas Parry Williams, Llywydd y Llys.
Llun 9: Perthyn i Seindorf Arian y Bala, bump o ferched yn aelodau, a hwy yw'r rhai mwyaf ffyddlon yn ymarferiadau'r band. Arweinir y band gan Mr Tom Owen, Ffestiniog, sydd yn hannu o deulu a gynhyrchodd bencampwyr ym myd yr offerynnau pres.
Llun 10: Teimlai Mr Alun Ogwen Williams, beirniad y gystadleuaeth adrodd i rai sy'n dygsu'r Gymraeg, mai dim ond dwy a ymgeisiodd. Ar y chwith mae Janice Slade, Pant Gaenor, Llangefni, yn gyntaf yn y gystadleuaeth ac Elaine Jones, Cymwysg Isaf, Pontsenni ar y dde a Mrs Helena Jones, mam Elaine, yn y canol.
Llun 11: Ymgeisydd a enillodd glust y gynulleidfa a'r brif wobr yn Eisteddfod Llandudno am ganu gyda'r tannau dan 15 oed, oedd Gaenor Valmai Jones, Sarnau, ger y Bala. Rhoes ei pherfformiad ar y teledu hefyd bleser i filoedd.
Llun 12: Ron Davies, un o ffotograffwyr 'Y Cymro' a enillodd y wobr gyntaf am ddarlun llonydd, du a gwyn, yn y Brifwyl yn Llandudno.
Llun 13: Parti cyd-adrodd capel Smyrna, Llangefni, gyda Mrs Griff Ephraim, y buddugwyr yn y gystadleuaeth cyd-adrodd i gyfeiliant telyn.
Llun 14: Rhai o aelodau Llys yr Eisteddfod Genedlaethol ar y llwyfan, o'r chwith i'r dde yw: Brinley Richards, Erfyl Fychan, William Morris, Emrys Roberts, Dr Stephen J Williams, T Llywelyn Hughes, T W Thomas, Brynallt, Ernest Roberts, Dr B Haydn Williams, Cynan a Chrwys;
Llun 15: Gweinidog gyda'r annibynwyr yn Abersoch a brodor o Ddinbych yw'r Parch. Dafydd Owen, awdur y bryddest a ddyfarnai Waldo Williams yr orau yn Llandudno. Enillodd Mr Owen y goron ym Mangor pan oedd yn 24 oed. Cwblhaodd dri llyfr yn ddiweddar. Y mae dau ohonynt - "Baledi a hanes y faled yng Nghymru" ac gwerthir y llall, "Elfed a'i waith" am y tro cyntaf yn y Brifwyl eleni. Gwelwyd hefyd lyfr ei frawd, Dr W T Owen, King's Cross, ar "Edward Williams, Rotherham" am y tro cyntaf yn Llandudno. Y mae Mr Owen yn briod gyda dau o blant, Gareth a Sian. Cyhoeddir y bryddest a anfonwyd gan y bardd i'r gystadleuaeth yn llawn ar dudalen 13 yn y rhifyn hwn o'r 'Cymro'
Llun 16: Ble roedd y bardd? Gweler yr erthygl ar dudalen 24 o'r 'Cymro', 9.8.63. Atalwyd y gadair yn Eisteddfod Llandudno oherwydd fod y safon yn rhy isel (gweler E63/148).
Llun 17: Cynrychiolwyd ieuenctid Bangor yn y gystadleuaeth i bartion adrodd dan ddeunaw oed gan Barti'r Rhos, Penrhos.
Llun 18: Rhai o'r ymgeiswyr llwyddiannus yn arholiad ysgrifenedig yr Orsedd yn seiliedig ar y llwyfan swyddogol, "Eisteddfod Cymru", o'r chwith i'r dde (rhes ol) yw: Anne Hughes (cyntaf dan 18 oed), Marian Roberts (ail dan 15 oed), y ddwy o Ysgol Ramadeg Pwllheli; Diana Rhys Jones, Ysgol John Bright, Llandudno (cyntaf dan 18 oed, dysgwyr); Richard Humphreys, Aberconwy (ail dan 18, dysgwyr); Dilys Wyn Roberts, Mochdre, (ail dan 18). Rhes flaen: Alan Patterson, Aberconwy (ail dan 15, dysgwyr); Pauline Wilton, Aberconwy (cyntaf dan 15, dysgwyr).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment