Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

32 negatif : du a gwyn. Eisteddfod Genedlaethol y Fflint 1969.

Llun 1: Pabell Eisteddfodd Rhydaman 1970. O'r chwith i'r dde, Mrs Beti Davies (cyhoeddusrwydd - hi oedd yng ngofal y babell) Harold Bowen (llety a chroeso) ac Elvey MacDonald (o swyddfa'r Eisteddfodd)
Llun 2: Tri o feirdd Sir Fon sy'n ymarfer ar y maes cyn mynd i'r Babell Len i gystadlu yn rownd gyntaf Ymyrson y Beirdd, ddydd Mawrth yw: Huw Llewelyn Williams, R. J. H. Gruffydd a John Williams, Llanerchymedd
Llun 3: Jean Williams (18), Ffordd Glyndwr, Y Fflint, yn y gwres fore dydd Mawrth
Llun 4: Cystadleuwyr ar adrodd darn o'r ysgrythur rhwng 12 a 15 oed. O'r chwith i'r dde, Delyth Mai Nicholas, Bryn, Llanelli (cyntaf), John G. Roberts, Llangian, Pwllheli (ail), Robert Hughes, Bangor (trydydd)
Llun 5: Tri o feirdd Sir Fon sy'n ymarfer ar y maes cyn mynd i'r Babell Len i gystadlu yn rownd gyntaf Ymyrson y Beirdd, ddydd Mawrth yw: Huw Llewelyn Williams, R. J. H. Gruffydd a John Williams, Llannerchymedd
Llun 6: Tim yr Annibynwyr yn Ymyrson y Beirdd. O'r chwith i'r dde - y Parch O. M. Lloyd (Dolgellau), Y Parch John Gwilym Jones (Bangor), Y Parch Alun R. Williams (Cwmllinau) a'r Parch Gwyn Evans (Talybont)
Llun 7: Delyth Blaney (15 oed). Llanerfyl, Sir Drefaldwyn, yn derbyn wobr cyntaf am yr unawd Cerdd Dant oddi wrth Meic Parry
Llun 8: Hwyl a miri o flaen pabell Hwyl! Y Parch J. Tudno Williams, y Borth, a'i ferch Haf, Ifor Owen, Meirion Jones yn sgwrsio
Lluniau 9 - 10: Tim Prifeirdd yr Urdd yn Ymyrson y Beirdd, O'r chwith i'r dde, James Jones, Gerallt Lloyd Owen, Geraint Lloyd Owen a John Hywyn Edwards
Llun 11: Tim yr Annibynwyr yn Ymyrson y Beirdd. O'r chwith i'r dde - y Parch. O. M. Lloyd (Dolgellau), Y Parch. John Gwilym Jones (Bangor), Y Parch. Alun R. Williams (Cwmllinau) a'r Parch. Gwyn Evans (Talybont)
Llun 12: Merch mewn gwisg Gymerig yn gwerthu 'Raglen y Dydd' ar Faes yr Eisteddfodd
Lluniau 13 - 14: Desmond Healey (ysfrifennydd y Pwyllgor Llen) a W D Williams, y Bermo ar Lwyfan y Babell Len
Lluniau 15 - 17: Y dorf ar Faes yr Eisteddfodd
Lluniau 18 - 19: Dim Disgrifiad
Llun 20: Y Tywysog Charles ar lwyfan yr Eisteddfodd gyda Cynan, Mr W. Armon Ellis a phobol bwysig eraill
Lluniau 21 - 22: Dim Disgrifiad
Llun 23: Y Tywysog Charles ar lwyfan yr Eisteddfodd gyda Cynan, Mr W. Armin Ellis a phobol bwysig eraill
Lluniau 24 - 28: Y dyrfa a gasglodd wedi protest yn erbyn ymweliad y Tywysog Charles a'r Eisteddfod. Yn y dyrfa gwelir Dafydd Iwan a nifer o newyddiadurwyr
Llun 29: Criw o flaen pabell yr Eisteddfod yn cadarnahu llety a thocynnau ar gyfer Eisteddfodd Rhydaman. Gwerthwyd gwerth �1,000 o docynnau ar y dydd Llun. Yn y llun mae: Tommy Scourfield, Mrs Scourfield, Mrs Beti Davies a Mrs Peggy Williams (pwyllgor cyhoeddusrwydd), Mrs Dilys Cadogan (ysgrifenyddes y treFnydd), Elvey Macdonald (o'r swyddfa Eisteddfodd), Hywel Davies, Eirwen Davies, (tocynnau), Mrs Beti Wyn Davies, Mrs Mair Bowen (llety a chroeso), Y Parch. Ronald Walters (Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith), D O Davies (Trysorydd), Miss Margaret Jones (Pwyllgor cyllid) a Mrs Enid Davies (pwyllgor gwaith)
Llun 30: Meim Plant Theatr Fach y Rhyl a agorodd y Babell Ddrama, dydd Llun; sef "Y Foneddiges, Y Rhosyn a Dafydd" a ddyfeisiwd ac a gynhyrchwyd gan Angela Thomas
Llun 31: Dim Disgrifiad

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw