Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Detholiad o fap Ordnans Morgannwg taflen XVIII, a arolygwyd yn 1873-74; fe'i cyhoeddwyd yn 1885, chwe modfedd i'r filltir, gan ddangos lleoliad y Synagog cyntaf ym Mhontypridd.
Cafodd Synagog cyntaf Pontypridd ei sefydlu yn 1867, mewn ysgoldy wedi ei addasu. Mae'n ymddangos na fu i'r union gyfeiriad gael ei gadarnhau mewn print, a'r map Ordnans yma yw'r unig ffynhonnell awdurdodedig sy'n cadarnhau ei leoliad.
Mae'r gymuned Iddewig yn dyddio yn ôl i'r 1840au o leiaf. Er bod aelodaeth o'r gynulleidfa wedi parhau i fod yn gymharol fach, fe wnaethant sefydlu eu hadran eu hunain ym Mynwent Glyntaf yn yr 1890au ac adeiladu synagog yn Cliff Terrace, Trefforest yn 1895. Cafodd y gynulleidfa ei diddymu yn 1978 a chafodd y synagog ei werthu a'i drawsnewid yn fflatiau.
Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd Llyfrgell Genedlaethol yr Alban.
'The History of the Jewish Diaspora in Wales' gan Cai Parry-Jones (http://e.bangor.ac.uk/4987).

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw