Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

'Heddwch' yw'r cylchgrawn i gefnogwyr CND Cymru, yr Ymgyrch Ddiarfogi Niwclear, ac fe'i cyhoeddir yn fras yn chwarterol ers 1991. Dechreuodd fel ‘Campaign Wales’ 1985, yn dilyn sefydlu CND Cymru fel rhwydwaith ymgyrchu annibynnol o 1981 ymlaen.
Mae CND Cymru,Ymgyrch Cymru Dros Ddiarfogi Niwclear yn gweithio dros heddwch, cyfiawnder a diarfogi rhyngwladol, a thros fyd lle gall yr adnoddau anferth sy'n cael eu neilltuo i filitariaeth gael eu hailgyfeirio i wasanaethu gwir anghenion y gymuned a'r amgylchedd. Mae pob rhifyn o 'Heddwch' a 'Campaign Wales' yn cynnwys diweddariadau ar gynnydd ymgyrchoedd a gweithgareddau CND ledled Cymru, gyda nifer o gyfeiriadau penodol at gymunedau, actifyddion a mudiadau yng Nghymru - ffynhonnell gyfeiriol werthfawr ar gyfer archwilio treftadaeth heddwch Cymru dros y 4 degawd diwethaf.
Mae Archif CND Cymru Archive ar wefan Casgliad y Werin Cymru, sydd wedi ei digido gan dîm 'Cymru dros Heddwch' WCIA yn dwyn ynghyd gyhoeddiadau cefnogwyr a chofnodion CND Cymru o1981 hyd y dydd heddiw, yn cynnwys:• ‘Cylchgrawn Campaign Wales’ 1-20 (1985-1991)• Cylchgrawn ‘Heddwch’ 1-74 (1991 to 2020)• Atodiadau ‘Heddwch Action News’ 1-14 (1992 to 2006) a thaflenni gwybodaeth• Casgliad ‘Bridgend Bunker Campaign’ 1982 yn cynnwys Cylchlythyrau, Torriadau o'r Wasg ac Adroddiadau Ysgrifenedig. Mae archifau papur CND Cymru yn cael eu dal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac ar gael i'w chwilio ar Gatalog LLGC o dan y teitl 'CND Cymru National Archive'.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw