Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

'Heddwch' yw cylchgrawn cefnogwyr CND Cymru, Ymgyrch Ddiarfogi Niwclear Cymru, a gyhoeddir yn fras bob chwarter o 1991 hyd heddiw. Dechreuodd fel ' Ymgyrch Cymru ' o 1985, yn dilyn sefydlu CND Cymru fel rhwydwaith ymgyrchu annibynnol o 1981.
Mae CND Cymru, Ymgyrch Ddiarfogi Niwclear Cymru, yn gweithio dros heddwch rhyngwladol, cyfiawnder a diarfogi, a thros fyd lle mae'r adnoddau enfawr sy'n cael eu neilltuo i filwriaeth yn cael eu hailgyfeirio i wir anghenion y gymuned a'r amgylchedd. Mae pob rhifyn o 'Heddwch ' ac ' Ymgyrch Cymru ' yn cynnwys diweddariadau ar gynnydd ymgyrchoedd a gweithgareddau CND Cymru gyfan, gyda llawer o gyfeiriadau penodol at gymunedau, gweithredwyr a mudiadau Cymreig - ffynhonnell amhrisiadwy i archwilio treftadaeth Heddwch Cymru dros y 4 degawd diwethaf.
Mae archif CND Cymru ar Gasgliad y Werin Cymru, a gafodd ei digido gan dîm 'Cymru Dros Heddwch' WCIA, yn dwyn ynghyd gyhoeddiadau cefnogwyr CND Cymru a'r cofnodion rhwng 1981 a heddiw, gan gynnwys:
• Cylchgrawn 'Ymgyrch Cymru' 1-20 (1985-1991)
• Cylchgrawn 'Heddwch' 1-74 (1991 i 2020)
• 'Newyddion Gweithredu Heddwch' Atodiadau 1-14 (1992 i 2006) a thaflenni gwybodaeth
• Casgliad 1982 'Ymgyrch byncer pen-y-bont ar Ogwr ' yn cynwys cylchlythyrau, toriadau o'r wasg a thystiolaeth ysgrifenedig.
Mae archifau papur CND Cymru yn cael eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a gellir eu chwilio drwy gatalog LlGC o dan 'CND Cymru National Archive'.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw