Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llyfr y Barnwr sy'n cofnodi'n fanwl yr achosion llys a fu yn y Wladfa rhwng 1872 a 1880. Rhestrir enwau'r barnwyr a'r rheithwyr yn yr achosion.

Mân droseddau yw'r mwyafrif o'r achosion yn y llyfr hwn ond, o bryd i'w gilydd, ceir cyfeiriadau at droseddau difrifol. Er enghraifft, ar dudalen 55 o'r llyfr (delwedd 29 o 80), sonnir am ŵr o'r enw Louis de Pourièr a ddedfrydwyd yn euog o lofruddio dyn o'r enw Charles Lymm. Nodir fod Louis de Pourier i'w drosglwyddo i ofal Llywodraeth yr Ariannin i'w gosbi yn ôl cyfreithiau'r Weriniaeth.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw