Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cyflwynwyd yr adroddiad hwn gerbron Llys y Sesiwn Fawr yng Nghonwy ar 6 Ebrill 1795, gan John Hughes, crwner Sir Gaernarfon. Mae'r adroddiad yn ymwneud â dau archwiliad post-mortem a gynhaliwyd yn y sir. Cafodd y cyntaf ei gynnal ar 27 Tachwedd 1794, ar gorff Nathaniel Humphreys o Aber-erch a gafwyd yn farw mewn nant o'r enw Rhyd y Gwichiad. Roedd Humphreys wedi marw ar nos Lun, 24 Tachwedd 1794, ar ei ffordd yn ôl o Bwllheli lle bu'n yfed. Ymddengys iddo ddisgyn i'r nant ger y ffordd, ac iddo foddi wrth i'r llanw ddod i mewn. Cynhaliwyd yr ail archwiliad post-mortem ym Mhlas Pentir, plwyf Bangor, ar 4 Rhagfyr 1794, ar ôl i gorff William Jones gael ei ddarganfod ym Mhistyll Perfeddgoed. Nid oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod rhywun wedi ymosod ar William Jones a daeth y crwner i'r casgliad iddo farw yn y fan a'r lle, o bosibl ar ôl iddo gael ffit.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw