Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

When I was a child I used to go camping with my father and brother to a, in those days, little known about campsite on a farm near Rhoslefain. The camping field is on a low cliff adjacent to the sea. We would pitch the tent looking out to sea.
On this particular holiday i was about 13 or 14, so it would have been the summer of 1973/4.
Pan oeddwn i'n blentyn, roedden ni'n arfer gwersylla gyda fy nhad a fy mrodyr mewn maes gwersylla bach ar fferm ger Rhoslefain. Mae'r cae lle roedden ni'n gwersylla ar glogwyn isel gyferbyn â'r môr. Byddem yn codi pabell gan edrych draw dros y môr.
Ar y gwyliau penodol hwn, ro'n i tua 13 neu 14, felly byddai wedi bod yn haf 1973/4. Pan ddeffroais un bore heulog, llonydd ac edrych draw tuag at y môr gallwn weld crwbi grŵp o forfilod yn codi allan o'r dŵr yn y pellter. Roedden nhw'n eithaf pell i ffwrdd ac yn llonydd, ac roedd rhyw ddeg ohonyn nhw. Beth bynnag oedden nhw, roedden nhw'n eithaf mawr, ac ro'n i'n cymryd eu bod yn cysgu. Doedd dim esgyll i'w gweld, ond roedden nhw yn bell i ffwrdd, ac felly roedd hi'n anodd i mi fod yn sicr ynghylch hyn.

Ers hynny rydw i wedi bod yn ymchwilio i weld beth allen nhw fod wedi bod, a fy nealltwriaeth i yw mai'r hyn a welais i oedd casialotiaid (sperm whales), o ystyried pa mor bell allan oedden nhw, a'r argraff gawson i o ran eu maint a'u lliw, eu hymddygiad, a'r ffaith nad oedd yna esgyll amlwg i'w gweld.
By Anna Griffiths

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw