arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

'Heddwch' yw cylchgrawn cefnogwyr CND Cymru, yr Ymgyrch Ddiarfogi Niwclear yng Nghymru ac fe'i cyhoeddwyd o 1981 ymlaen. Mae pob rhifyn yn cynnwys diweddariadau ar ddatblygiadau ymgyrchoedd a gweithgareddau sy'n ymwneud yn benodol â Chymru, cymunedau a mudiadau yng Nghymru, ac mae'n ffynhonnell werthfawr o safbwynt treftadaeth heddwch Cymru yn y blynyddoedd diweddar yma.

Dros y blynyddoedd mae CND wedi bod yn hanfodol o safbwynt galluogi'r cyhoedd i lobïo yn erbyn defnyddio arfau niwclear mewn sawl gwrthdaro. Ym mis Gorffennaf 2017, fe wnaeth y rhan fwyaf o wledydd y byd - ac eithrio'r DU, UDA a Rwsia - lofnodi Cytundeb Gwahardd Arfau Niwclear y Cenhedloedd Unedig (TPNW). Roedd hwn yn gytundeb oedd yn gwahardd arfau niwclear, gyda'r nod yn y pen draw o'u gwaredu yn gyfangwbl.

Mae archifau CND Cymru yn cael eu digido gyda chefnogaeth rhaglen Treftadaeth Heddwch WCIA yn Nheml Heddwch Cymru yng Nghaerdydd, gyda'r nod o gael yr archif gyfan ar lein ac ar gael i'r cyhoedd o 2020 ymlaen.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw