Disgrifiad

"Dechreuodd y syniad ar y dechrau gyda rhoi sialc ar gefn y tŷ, yna fe ddatblygodd yn syniad gen i a fy mhlant, Alfie (oed ac Elsie-may (4 oed) i wneud llun enfys a chalon ar flaen ein sied (ail ffotograff ynghlwm) fel y gallai pobl weld ei weld wrth gerdded heibio.

Tua wythnos yn ddiweddarach, fe wnaeth fy mam wneud llun calon fawr ar y wal arall ar ochr fy nhŷ. Pan welais i hwn, fe wnaeth i mi fod eisiau cwblhau'r wal gyfan. Felly, dechreuais liwio pob bricsen ar yr ochr honno gyda fy mhlant. Penderfynodd fy mab y byddai'n syniad gwych ysgrifennu GIG mewn glas i ddangos ein bod yn meddwl amdanynt. (4ydd llun ynghlwm.)

Unwaith y gwelais i'r wal gyfan wedi cael ei gorchuddio mewn sialc amryliw, dywedais wrth y plant, 'Be am wneud y tŷ cyfan?'

Fe wnes i dynnu'r ysgolion allan, ac fe wnaeth fy chwaer Karla, ei chariad Dave a'u merch Leela-May ddod allan i helpu. Roedd Karla, Dave a minnau allan yn y glaw tan 11yh y noson honno yn benderfynol o'i gwblhau, ond roedd yna un rhan fawr oedd y tu hwnt i'n cyrraedd.

Y bore wedyn, fe wnaethon ni godi a gofyn i dad fy mab a allen ni fenthyg ei ysgolion o i gyrraedd rhan ucha'r tŷ. Fe wnaeth o roi sialc ar hyd pen uchaf y tŷ i gyd.

Roeddem ni i gyd mor hapus ein bod ni wedi cwblhau hyn ond doedd ganddon ni ddim mwy o frics y gallen ni eu lliwio wedi hyn gan ein bod ni wedi rhoi sialc ar y cyfan; fe wnaethon ni hyd yn oed dynnu'r bin olwynion allan er mwyn gallu mynd y tu ôl iddo (dyna pam dwi'n dweud bod hwn yn rhywbeth nad oedd yn bosib rhoi'r gorau i'w wneud!)

Daeth fy nghymydog, Pete, allan a dweud pa mor rhyfeddol y mae'n edrych, dywedais wrtho, 'Eich trochi nesa'; a dyma fo'n dweud, 'Does gen i ddim amynedd ar gyfer y math yna o beth ond mi allwch chi wneud os ydych chi eisiau.'

Aeth Pete i'w gar er mwyn mynd draw i'r siop, ac felly fe wnaeth Karla, Dave a finnau gymryd hyn fel her a mynd ati i roi sialc ar ei sied pan oedd o i ffwrdd. Mi wnaeth fy nghymydog ar yr ochr arall, Marco, glywed am hyn ac felly mi all, felly fe wnaethon ni yr un peth efo'i sied o tra oedd o'n bwyta ei de.

Wnes i bostio'r lluniau yma i wahnol grwpiau ar Facebook er mwyn i bobl gael eu gweld, ac roedd yr adwaith gawson nhw yn anhygoel. Roedd yna gymaint o sylwadau neis yna. Wnaeth cymdogion eraill yn yr un rhes â ni adael sylw a dweud y gallen ni wneud ei un nhw os oedden ni eisiau.

Felly fe wnaeth fy ymgyrch i roi sialc ar fy nhŷ i gyd droi i fod yn ymgyrch i sialcio pob sied yn fy rhes i (10 sied) (gofynnais am ganiatâd gan berchennig pob cartref.).

Fe wnaethom ni aros allan eto tan 11 y nos yn y gwynt a'r glaw er mwyn cwblhau cymaint ag yr oedden ni'n gallu.

Y bore wedyn, roedd ganddon ni dri thŷ i'w cwblhau yn fy rhes i, ac fel roedden ni'n gwneud hynny roedd cymdogion yn nes ymlaen yn y rhes yn rhoi caniatâd i ni wneud eu tai nhw hefyd, ac felly trodd hyn i fod yn ymgyrch i wneud y cyfan o'n stryd ni. Unwaith eto, roeddem allan yn y glaw tan 11 o'r gloch y nos yn trio gwneud cymaint â phosib. Ac yna roedden ni yn ôl peth cyntaf yn y bore er mwyn cario ymlaen. Daeth cymdogion allan i roi bag mawr o Skittles a Mini Eggs i'r plant i ddiolch i ni am be roedden ni'n ei wneud.

Pan ofynnodd y cymdogion pa mor bell faswn i'n mynd efo hyn, ro'n i wastad yn dweud bod gen i fy llygad ar y bloc o fflatiau; chwarddodd fy chwaer Karla a dweud, 'Sgin ti'm gobaith'- ond ar ôl i ni orffen fy nhŷ i gyd a'r 14 o siediau mi benderfynon ni wneud rhywbeth mawr ar gyfer y clapio arwyr am 8yh. Roedd hi hefyd yn 100fed pen-blwydd ar y Cyrnol Tom Moore y diwrnod hwnnw. Felly ddechreuon ni ar y bloc o fflatiau.

Treuliodd fy chwaer Karla a minnau y diwrnod cyfan o tua un o'r gloch tan 7:55yh yn mynd i fyny ac i lawr ysgol er mwyn cael y peth wedi'i wneud. Unwaith eto, daeth cymdogion allan gyda diodydd i ni, ac roedd gennym ni bobl yn cynnig mynd i'r siopau i ni, yn clapio wrth basio ac yn tynnu lluniau ac yn diolch i ni am be roedden ni'n ei wneud.

Ar ôl inni orffen, fe wnaethon ni ymuno efo'r clapio a chanu 'Pen-blwydd Hapus ' gyda'n gilydd i'r Cyrnol Tom Moore, ac yna mi ganodd fy merch 'Let it go' gan Frozen. Mae'r cyfnod hwn o beidio symud i nunlle efo dau o blant wedi bod chydig bach i fyny ac i lawr, gan fod y plant yn mynd yn wirioneddol rwystredig nad oedden nhw'n cael chwarae tu allan, a'u bod yn methu â mynd i'r parc nac i'r ysgol i weld euffrindiau. Mae fy merch hefyd ar y sbectrwm awtistig (heb gael diagnosis eto gan ei bod yn rhy ifanc, ond mae hi o dan dîm arbenigol sy'n ei thrin fel plentyn awtistig), ac mae'n gweld hyn yn gyfnod hynod o heriol. Mae hi wedi bod yn anodd iawn i gadw yn y tŷ efo hi, ond mae'r ymgyrch yma i sialcio wedi rhoi rhywbeth cyffrous i'r plant i'w wneud, ac mae'n rhoi rhywbeth i ni ganolbwyntio arno ac wedi gwneud i'r dyddiau hedfan heibio.

Rydw i wedi cael ambell neges gan gymdogion yn diolch inni am yr hyn rydyn ni wedi'i wneud, gan eu bod yn teimlo ein bod bellach yn gymuned glòs, a bod hyn ac wedi dod â ni yn nes at ein gilydd fel y byddai pethau flynyddoedd yn ôl. Rydw i hefyd wedi cael negeseuon gan bobl sy'n byw yn y fflatiau sy'n hunanynysu yn diolch inni am yr hyn rydan ni wedi'i wneud gan eu bod bellach yn eistedd wrth y ffenest ac yn edrych i weld be sydd wedi cael ei wneud ac yn gwenu;rydan ni wedi rhoi rhywbeth siriol iddyn nhw edrych arno.

Fy nghenhadaeth nesaf fydd un ai i droi'r bloc cyfan o fflatiau yn amryliw, neu cario mlaen i sialcio i lawr y stryd sy'n arwain at ein un ni gan fod ganddon ni fynedfa ond dwy stryd arall yn arwain i'n rhai ni; neu wneud y ddau. Gawn ni weld.

Fy enw i ydi Cherie Jones. Rwy'n 29 oed ac yn fam sengl i Alfie, 8 oed, ac Elsie-May sy'n 4 oed. Cefais fy ngeni yn Llanelwy, ac rwyf wedi byw yng Nghraig y Don ar hyd fy oes, bron. Felly mae llawer o'r cymdogion wedi fy ngweld yn tyfu fyny er pan o'n i'n blentyn ifanc. Felly mae gallu gwneud hyn iddyn nhw a dod ag ychydig o hapusrwydd iddyn nhw ar adeg mor drist ac ansicr wedi bod yn brofiad arbennig, ac mae gallu gwneud hynny gyda fy nheulu wedi bod yn well fyth - mae'n rhywbeth na wnawn ni fyth anghofio.

Mae papur newydd y 'Daily Post' wedi bod draw yn tynnu lluniau ac yn ysgrifennu adroddiad am hyn i gyd, a hefyd y 'Pioneer'; ac rydan ni wedi cael llawer o gefnogaeth gan Heddlu Gogledd Cymru.

Rydw i'n gobeithio y gall fy syniad i o sialcio tai helpu teuluoedd a chymunedau eraill hefyd.'

- Cherie Jones

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw