Skip to main content

Adfail tŷ sylweddol ym mhen uchaf Blaen-y-Cwm, Aberangell

Disgrifiadau

Ym mhen pellaf Blaen-y-Cwm, Aberangell, wrth i'r llwybr ddechrau tynnu ar i fyny mae adfail tŷ mawr iawn. Mewn gwirionedd, mae yma ddau dŷ yn wynebu ei gilydd ar draws y trac. Mae'r tŷ ar y chwith yn fwy newydd ac yn un a godwyd o bosib yn lle'r adfail hwn sy'n ei wynebu. Rhyngddynt mae olion ffordd. Dywedwyd wrthyf fod hwn yn llwybr tramwy rheolaidd i geffyl a dyn rhwng Aberangell a Dolgellau, pellter o tua phum milltir. Roedd carped tew o eirlysiau o gwmpas yr adfeilion.

Owner:
Ray Gunn
Crëwr:
Ray Gunn
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Ray Gunn 2005
Eitem wedi’i llwytho:
6/4/2020
Gwelediadau:
589
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment