Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Tynnwyd y ffotograff gan John Thomas.
Ganed Twm Siôn Cati neu Thomas Jones (c. 1530-1609) yn Porthyffynnon, ger Tregaron. Roedd yn fardd, hynafiaethydd ac olrheiniwr achau, ac ef oedd stiward arglwyddiaeth Caron ar un cyfnod. Mae Twm Siôn Cati yn fwyaf adnabyddus, fodd bynnag, fel lleidr pen ffordd. Tyfodd nifer o chwedlau amdano a'i weithgareddau, ac fe gafodd ei ystyried, yn gam neu'n gymwys, yn 'Robin Hood Cymru', oherwydd y hen goel ei fod yn dwyn gan y cyfoethog ac yn rhoi i'r tlawd. Yn ôl yr hanes, arferai Twm guddio yn yr ogof hon ger Llanymddyfri yn nyffryn Tywi.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw