Skip to main content

Dyfrfi Ewrasaidd ger Craig y Deryn, Cei Newydd - 21/09/2018

Disgrifiadau

"Ar ddiwrnod mwll ym mis Medi, yn ôl yn 2018 (21/09/2018), fe wnes i gerdded ar hyd llwybr yr arfordir rhwng Llangrannog a Chei Newydd. Er ei fod yn ddiwrnod tamp, roedd yn wych ar gyfer bywyd gwyllt! Roedd yna ddolffiniaid trwynbwl yn Llangrannog, yn ogystal â ger Craig y Deryn; roedd morloi ifanc mewn dau fae diarffordd, ac roedd morloi wedi cyrraedd eu llawn dwf mewn lleoliadau yma ac acw. Fodd bynnag, yr uchafbwynt heb os oedd gweld y dyfrgi y sylwais arno yn nofio ger Craig y Deryn! Yn wreiddiol roeddwn i wedi bod yn eistedd yn edrych ar y dolffiniaid oedd rhyw 150m i ffwrdd, a dyna pryd wnes i sylwi ar symudiad yn nes at y clogwyni. Cymerais yn ganiataol mai dal cipolwg ar forlo wnes i, ond er mawr syndod i mi, fe wnaeth dyfrgi ymddangos o'r dŵr! Anghredadwy! Roeddwn i'n ddigon lwcus i dynnu llun sydyn o'r unigolyn bach yma cyn iddo ddifannu unwaith eto o dan y tonnau unwaith eto."

Owner:
Beth Thompson
Crëwr:
Beth Thompson
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2018
Eitem wedi’i llwytho:
23/3/2020
Date originally created:
21/9/2018
Gwelediadau:
755
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment