Disgrifiad

Mae Eglwys Mair, Tal-y-llyn yn dyddio'n ôl i'r drydedd ganrif ar ddeg, gydag adeilad yr eglwys bresennol yn dyddio o tua 1590. Y mae bellach yn dŷ preifat.
Claddwyd sawl aelod o deulu Julia Gunn ym mynwent yr eglwys hon yn ogystal ag aelodau o deuluoedd amlwg yn yr ardal.
Mae'r cerrig beddi hyn yn dyddio o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd 1935.

Llun 1: Carreg fedd Edward Corbet Owen a'i deulu, Tynycornel Hotel, Tal-y-llyn.
Llun 2: Carreg fedd Gay Owen, gwraig Humphrey Owen , Dolvannog, Tal-y llyn.
Llun 3: Carreg fedd Owen ac Elizabeth Owen, Brithdir.
Llun 4: Carreg fedd Edward Owen, Towyn.
Llun 5: Carreg fedd Edward Owen, Dolgellau.
Llun 6: Carreg fedd Humphrey a Jane Owen, Llanegryn.
Llun 7: Carreg fedd Owen Owen, Llanegryn.
Llun 8: Carreg fedd Hugh Owen, ail fab Owen a Margaret Owen, Hendre ( Dolfannog gynt).
Llun 9: Carreg fedd Owen Owen, mab hynaf Owen a Margaret Owen, Hendre (Dolffanog gynt).
Llun 10: Carreg fedd Margaret Owen, gwraig Edward Owen, Dolgellau.
Llun 11: Carreg fedd Ann Humphreys, gwraig Captain Edward Humphreys, Y Bermo.
Llun 12: Carreg fedd Richard Owen, Fronheulog.
Llun 13: Carreg fedd Evan a Martha Owen, Maesygorwyr, Corris Uchaf.
Llun 14: Carreg fedd Ann Owen, merch Robert a Margaret Owen, Fronheulog, Corris Uchaf.
Llun 15: Carreg fedd Humphrey Robert Owen, pumed mab Robert Owen, Fronheulog, Corris Uchaf.
Llun 16: Carreg fedd Robert Owen, Fronheulog, Corris Uchaf , pumed mab Owen Owen, Dolfannog.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw