Detholiad o ddyddiadur y bardd a'r gorsaf-feistr John Ceiriog Hughes (Ceiriog), 1872 [clawr, delwedd 1 o 7]
Disgrifiadau
Detholiad o ddyddiadur y bardd John Ceiriog Hughes (Ceiriog) ar gyfer y flwyddyn 1872. Ar y pryd, roedd Ceiriog yn gweithio fel gorsaf-feistr yng Nghaersŵs, Sir Drefaldwyn, lle'r oedd yn gyfrifol am arolygu'r rheilffordd newydd rhwng Caersŵs a'r gwaith plwm yn Y Fan.
Ganed J. Ceiriog Hughes (1832-87) yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Sir Ddinbych. Treuliodd gyfnod ym Manceinion a bu'n gweithio fel clerc ar y rheilffordd yn Llundain cyn dychwelyd i Gymru ym 1868 pan gafodd ei benodi yn orsaf-feistr yng Nghaersŵs. Roedd Ceiriog wedi dechrau barddoni ers rhai blynyddoedd ond ni chyhoeddwyd ei waith hyd 1860 pan ymddangosodd y gyfrol 'Oriau'r Hwyr'. Dilynwyd hon gan sawl cyfrol arall, gan gynnwys 'Oriau'r Bore' (1862) a 'Cant o Ganeuon' (1863) - cyfrolau sy'n cynnwys ei waith mwyaf poblogaidd. Mae'n debyg mai ei ganeuon telynegol oedd ei weithiau mwyaf poblogaidd ac mae rhai, fel 'Nant y Mynydd' ac 'Alun Mabon', yn parhau i gael eu canu a'u hadrodd ar lwyfannau eisteddfodau a chyngherddau hyd heddiw.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment