Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

John Ceiriog Hughes (1832-1887) a'r ffenestr liw o wyneb Ceiriog yn y Ganolfan Goffa, Glynceiriog. Y plac yn dynodi man geni Ceiriog; Penybryn, Llanarmon. Bardd a aned yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Dinb. Gadawodd yr ysgol yn bymtheg oed a rhoi cynnig ar fywyd amaethyddol ac ar argraffu cyn symud at berthynas iddo ym Manceinion yn 1848. Bu'n gweithio fel groser cyn cael swydd fel clerc yng ngorsaf nwyddau Ffordd Llundain yn 1855. Yr oedd ei gyfeillgarwch i ddynion fel R. J. Derfel, Creuddynfab (William Williams) ac Idris Fychan (John Jones; 1825-87) yn arwyddocaol i'w ddatblygiad fel bardd. Derfel a ddysgodd iddo werthfawrogi traddodiadau Cymru a'i berswadio i gymryd yr enw Ceiriog ac yr oedd ldris Fychan yn gyfrifol i raddau helaeth am ei ddiddordeb yn y ceinciau. Creuddynfab a gafodd y dylanwad mwyaf ar farddoniaeth Ceiriog trwy ei ddarbwyllo y dylai ganu yn syml, naturiol a theimladwy. Yn 1868 dychwelodd y bardd i Gymru ar 1 cael swydd gorsaf-feistr yn Llanidloes, Tfn., a dwy flynedd yn ddiweddarach cafodd ei benodi yn arolygydd y rheilffordd a oedd newydd ei hagor o Gaersws i'r Fan. Cyfnod pwysig oedd hwn ym mywyd barddonol Ceiriog: datblygodd gyfeillgarwch i lenorion amlwg yn yr ardal megis Mynyddog (Richard Davies) a Nicholas Bennett (1823-99) wrth feirniadu mewn eisteddfodau ac wrth fynychu'r tafarndai lle'r arferent gwrdd. Dechreuodd Ceiriog ei yrfa fel bardd cyn mynd i Fanceinion, ond ni chyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Oriau'r Hwyr, tan 1860. Yn fuan wedyn ymddangosodd Oriau'r Bore (1862), Cant o Ganeuon (1863) ac Y Bardd a'r Cerddor (1865). Y cyfrolau cynnar hyn yw'r rhai mwyaf poblogaidd, er iddo gyhoeddi Oriau Eraill (1868), Oriau'r Haf (1870) ac Oriau Olaf (1888) ar 1 dychwelyd i Gymru. Y maent yn cynnwys caneuon a adroddwyd ac a ganwyd ar lwyfannau trwy Gymru am flynyddoedd wedyn ac y mae rhai fel 'Nant y Mynydd', 'Dafydd y Garreg Wen' a chaneuon 'Alun Mabon' yn boblogaidd hyd heddiw. Arbenigrwydd Ceiriog oedd ei allu i ysgrifennu geiriau ar gyfer yr hen geinciau Cymreig gan fynd i ysbryd y gerddoriaeth, a'r canlyniad yw rhai o'r telynegion gorau yn y Gymraeg ar themu megis natur, serch a gwladgarwch. Caneuon sentimental ydynt yn 1 safonau heddiw ond yr oeddynt yn ganeuon poblogaidd yn oes Fictoria. Gellid dadlau mai gwas y gymdeithas, yn bodloni anghenion ei oes, ydoedd yn ei farddoniaeth, ond dychanu'r gymdeithas honno a wnaeth yn ei ryddiaith. Yn Gohebiaethau Syr Meurig Grynswth (1856-58; gol. Hugh Bevan, 1948) ceir beirniadaeth ar yr Eisteddfod Genedlaethol a rhai o'r beirdd ac ymosodiad ar y gymdeithas Gymraeg a'i ffugbarchusrwydd yn gyffredinol. Ceir beirniadaeth ar waith y bardd yn llyfr Saunders Lewis, Yr Artist yn Philistia 1: Ceiriog (1929), a W. J. Gruffydd, Ceiriog (1939). Cyfieithwyd detholiad o gerddi Ceiriog i'r Saesneg gan Alfred Perceval Graves (1926). Gweler hefyd Medwin Hughes, 'Ceiriog a'r Traddodiad Telynegol', yn Taliesin (Cyf. LIX, Mai 1987) ac astudiaeth Hywel Teifi Edwards o'r bardd yn y gyfres Lln y Llenor (1987). Daw'r wybodaeth o'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru: Argraffiad Newydd (gol. Meic Stephens, Caerdydd 1997).

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw