arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Chwarel Era, Esgairgeiliog Ceinws. Yn 1916, cafodd dau ddyn - Hugh Jones a Walter Jones o Esgairgeiliog Ceinws - eu claddu'n fyw am gyfnod hir yn chwarel Era. Daeth hanner cant o weithwyr o chwarel Aberllefenni i'w hachub. Buont yn gweithio'n galed drwy'r nos, yna clywodd rhywun sŵn tapio ar du mewn y siambr. Yn y diwedd, agorwyd twll bach a gallodd yr achubwyr basio bwyd trwydd. Gofynnodd Walter Jones am dybaco ar gyfer ei bibell ac ar ôl cael ei ddal y tu mewn am tua 36 awr, cawsant eu rhyddhau. Roedd Walter Jones eisoes wedi goroesi cael ei gladdu am ddiwrnod yn dilyn cwymp yn chwarel Ratgoed. Yn ogystal fe oroesodd y ffrwydrad ofnadwy ym Maerdy de Cymru.



Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw