Festri Capel y Methodistiaid 2001
Festri Capel y Methodistiaid 2001
Disgrifiadau
Yn y festri o dan capel y Methodistiaid yng Ngheinws Esgairgeiliog arferid cynnal partïon plant ac ysgolion Sul, gyda rhai yn derbyn medalau am fynychu yn ddi-dorr. Roedd yna hefyd ystafell lle byddai aelodau yn mynychu ymarferion côr. Cyn yr Ail Ryfel Byd, Mr Lloyd y postmon oedd y corfeistr. Roedd Mr Lloyd yn bianydd medrus ond doedd dim piano nac organ yn y festri, Felly, pan fyddai angen nodyn i gychwyn y côr byddai'n rhedeg o'r capel ac i fyny'r ffordd i'w dŷ yn Achor Cottage, ac yn taro nodyn o'i biano ei hun. Yna, gan ganu'r nodyn dro ar ôl tro, byddai'n rhedeg yn ôl i'r festri a byddai'r côr yn cychwyn ar y nodyn cywir.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment