Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

Clip fideo yn Saesneg. Sylvie Butterbach yn sôn am ei chefndir ieithyddol.

Cyfieithwyd:

"Rwy’ wedi dysgu Ffrangeg – hi yw fy mamiaith. Cefais fy ngeni yn Ffrainc a Ffrangeg roeddem ni’n siarad gartref. Ond roedd fy nain a’m taid yn siarad  Plattdeutsch, oherwydd rydym ni ar y ffin rhwng yr Almaen a Ffrainc , a chawsom ni ein goresgyn gymaint o weithiau fel bod fy rhieni wedi cael eu gwahardd rhag siarad Ffrangeg yn yr ysgol, a’m neiniau a theidiau hefyd. Roedd fy hen nain a’m hen daid yn siarad Ffrangeg, ond doeddwn i ddim yn eu nabod nhw…
"Bod yng Nghymru – weithiau, pan fydda’ i yn Ffrainc, mi fydda’ i’n  gweld traha pobl sydd ddim yn poeni i siarad yr iaith. Sydd ddim hyd yn oed yn eich cyfarch chi yn yr iaith honno. Hynny gan Almaenwyr, ac rwy’ wedi cwrdd â Saeson felly hefyd.  Felly fe ddywedais i wrthyf i fy hun, na, dyw hyn ddim am ddigwydd. Bydd fy mhlant i yn ymwybodol, yn gwybod mai yng Nghymru yr ydym ni, bod pobl yn siarad Cymraeg, a phob dim. Felly fe anfonais i nhw i’r ysgol Gymraeg ac roedd fy merch wrth ei bodd ac wedi dysgu’n rhwydd.
"Cymru yn erbyn Lloegr gyda’r rygbi, dros Gymru rydych chi’n gweiddi wrth gwrs. Ond Cymru yn erbyn Ffrainc? Ro’n i’n gweddi ar i Ffrainc ennill! Ac o ‘mlaen i roedd yna ferch ddeng mlwydd oed yn gweiddi dros Gymru. O ‘mlaen i! Yn fy meddwl i dyna oedd y brad eithaf. Ges i afael ynddi fel hyn a gofynnais iddi, ‘Qu’est-ce-que tu fait? Beth wyt ti’n meddwl wyt ti’n gwneud?’ Ac fe ddywedodd hi, ‘Mam, Cymraes ydw i. Rwy’ wedi penderfynu bod yn Gymraes.’ A dywedais i, ‘Mais, pourquoi? Ond pam?’ Ac fe ddywedodd hi, ‘Pan fydda’ i’n siarad Ffrangeg gyda ti, dwi’n teimlo ‘mod i’n gwneud cam â Dad, oherwydd dyw e ddim yn deall Ffrangeg a  - wel mae’n deall ond dyw e ddim yn siarad Ffrangeg . A pan fydda’ i’n siarad Saesneg gyda fy nhad  – dyw e ddim yn siarad Cymraeg – rwy’n teimlo ‘mod i’n gwneud cam â ti, felly rwy’ wedi penderfynu bod yn Gymraes. Fel hynny fydd arna’ i ddim byd i neb.’ Felly fe benderfynodd hi fod yn Gymraes, ac o hynny allan, Cymraes oedd hi. A dyna ni. Ac fe wnaeth ei chwaer hi yr un peth."

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw