Ffrangeg

Mae tua 128 miliwn o bobl ar draws y byd sy'n siarad Ffrangeg. Mae'n iaith swyddogol nid yn unig yn Ffrainc ond hefyd mewn 24 o wledydd eraill, er enghraifft y Swisdir a Chanada. Siaredir Ffrangeg ar Ynysoedd y Sianel, a cheir cymunedau Ffrangeg sylweddol o ran maint yn Llundain. O'r ieithoedd sy'n cael eu dysgu yn ysgolion Prydain, yr iaith Ffrangeg yw'r fwyaf cyffredin. Yng Nghymru, cofnodwyd bod disgyblion sy'n siarad Ffrangeg fel iaith gyntaf mewn ysgolion yng Nghaerdydd, sir Gaerfyrddin, Conwy/sir Ddinbych, sir y Fflint, Casnewydd, Abertawe/Castell-nedd/Port Talbot, a Wrecsam.
Gwrandewch ar Sylvie Butterbach a aned yn ardal Alsace yn Ffrainc - rhanbarth a fu hefyd yn rhan o'r Almaen ar gyfnodau yn ei hanes. Daeth i Gymru fel 'assistante' Ffrangeg mewn ysgol yn y 1970au. Arhosodd a magu teulu yma. Mae'n byw nawr ym Mhontardawe ac mae'n gweithio fel cyfieithydd a storïwr.

Mae 3 eitem yn y casgliad

  • 1,450
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,124
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,085
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

See also: