Capel y Methodistiaid Ceinws 2001
Disgrifiadau
Capel y Methodistiaid Ceinws 2001. Cafodd Capel Ebenezer ei adeiladu yn 1840 ac agorodd ei ddrysau yn 1841. Ar y pryd roedd grisiau yn arwain i lawr i'r festri ym mhen blaen y capel. Fodd bynnag, mae'n debyg bod problem gyda'r adeilad a chafodd ei ailadeiladu yn 1874. Credir i'r grisiau blaen hefyd gael eu llenwi i mewn yr un pryd, gyda'r fynedfa yn cael ei rhoi yng nghefn yr adeilad. Yn ôl yn yr 1880au roedd gan y capel hwn dair ffenest fwaog ar y blaen fel y gwelir yn ffotograff John Thomas (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) o Ceinws Esgairgeiliog. Bu i'r capel gau yn 1980 a chafodd ei werthu i rywun o Lundain
am ychydig flynyddoedd. Yn 2001 cafodd ei brynu gan Jeremy Thomas o Era Works, Ceinws a welir yn y llun uchod gyda'i fab, Jason. Aed ymlaen yn y man i'w adnewyddu a'i addasu'n dŷ.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment