Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

C. R. Trueman
Ffotograffydd, Pamffledwr, ac ecsentrig!

Yn ystod dau ddegawd cyntaf yr ugeinfed ganrif roedd Clement Robert Trueman yn ecsentrig adnabyddus yng Nghastell-nedd hyd nes iddo gael ei ddiarddel o'r dref tua 1919; symudodd wedi hynny i Dreboeth yn Abertawe.

Roedd yn ffigwr poblogaidd ymysg trigolion Castell-nedd ac Abertawe ac mae wedi cael ei ddisgrifio fel 'un o oroeswyr olaf côt ffrog ... gyda'i fag bach o ddogfennau dirgel. '
Dywedodd un gweithiwr yn ei stiwdio ffotograffig yng Nghastell-nedd y byddai'n aml yn cael ei anfon i chwilota drwy'r llyfrau cyfreithiol niferus ar gyfer ei gyflogwr pan oedd Mr Trueman yn mynd â rhywun neu rywrai i'r llys unwaith eto, neu yn wir os oedd yn amddiffyn ei hun yn erbyn cyhuddiad neu achos cyfreithiol yn ei erbyn.
Cyhoeddodd yn ogystal gardiau post gyda'r un elfen o ffyrnigrwydd a sgandal yn perthyn iddynt, gan eu gwerthu wrth gerdded strydoedd Castell-nedd.
Cyhoeddwyd detholiad o gardiau post gan C. R. Trueman wedi'u cynhyrchu o tua 1902 i 1915. Pe bai sgandal yng Nghastell-nedd yn ymwneud â ffigurau cyhoeddus yna gallech warantu y byddai Trueman yn creu cerdyn post damniol neu bamffled amdanynt, gan eu gwerthu wrth iddo gerdded o amgylch y dref. Byddai trigolion y dref yn edrych ymlaen yn eiddgar at bropaganda Trueman a chasglu'r cardiau yn ystod anterth poblogrwydd y cerdyn post yn negawdau cynnar yr ugeinfed ganrif. Y 'monomaniac' y cyfeirir ato ar rai o'r cardiau yw Trueman ei hun.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw