Cardiau Post Clement Robert Trueman

Detholiad o gardiau post gan Clement Robert Trueman, ffotograffydd oedd yn byw yng Nghastell-nedd; cynhyrchwyd hwy rhwng 1902 hyd 1915. Os oedd yna sgandal yng Nghastell-nedd oedd yn ymwneud â ffigyrau cyhoeddus yna gallech fentro y byddai Trueman yn creu cerdyn post damniol, neu bamffled, amdano ac yn eu gwethu wrth iddo gerdded o amgylch y dref. Byddai trigolion y dref yn aros yn eiddgar am bropaganda Trueman, ac yn casglu'r cardiau yn anterth mania'r cardiau post yn negawdau cynnar yr ugeinfed ganrif. Y 'monomaniac' y cyfeirir ato ar rai o'r cardiau yw Trueman ei hun, a dyma hefyd deitl pamffled a gynhyrchodd.

Mae 27 eitem yn y casgliad