Yr Eglwysi (Cymreig) a Chynghrair y Cenhedloedd - Cynllun Ymgyrch Heddwch
Disgrifiadau
Llyfryn gyhoeddwyd yn 1924 gan Gynghrair y Cenhedloedd Cymru (WLoNU) - mae'r fersiwn penodol hwn ar gyfer Eglwysi Presbyteraidd Sir Fynwy - yn amlinellu 'Cynllun Ymgyrchu' ar gyfer canghennau lleol a grwpiau eglwysi oedd yn ymgyrchu dros Heddwch Byd, yn dilyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cynghyrchwyd y llyfryn gan Sylfaenydd a Llywydd Anrhydeddus Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, Gwilym Davies, ac fe'i defnyddiwyd yn rhan o gyfres o 'ganllawiau gweithredu' ar gyfer grwpiau cymunedol, er mwyn i bobl Cymru fod yn ymwybodol o gysylltiadau rhyngwladol a gweithio tuag at sicrhau heddwch. Roedd dros 900 o ganghennau gyda dros 30,000 o aelodau yn gweithredu erbyn canol yr 1920au.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment