Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Hysbyseb ar gyfer busnes W. & J. Bogod & Co, Ltd  oedd yn gwerthu rhannau i beirniannau gwnio. Cafodd yr hysbyseb ei atgynhyrchu o'r cyhoeddiad  'The Journal of Domestic Appliances Sewing and Washing Machines and Pram Gazette', 1 Ionawr 1930. Sefydlwyd y cwmni yn 1895 gan Joseph a William Bogod i gyflenwi'r diwydiant tecstiliau a oedd ar y pryd yn ffynnu yn y DG; yn ddiweddarach, fe wnaeth y cwmni arallgyfeirio i werthu peiriannu gwnio a chyfarpar ar gyfer y gegin.

Roedd teulu Bogod ymhlith sylfaenwyr Synagog  Diwygiedig Caerdydd a sefydlwyd yn 1948 fel Synagog Newydd Caerdydd. Y flwyddyn ganlynol, daeth yn aelod o'r Mudiad Dros Ddiwygio Iddewiaeth. Ffurfiwyd y mudiad hwn mewn ymateb i rai o draddodiadau mwy haearnaidd Iddewiaeth Uniongred Cynulliad Hebreaidd Caerdydd, megis gwahardd gyrru ar y Sabbath a gwahardd priodasau rhyng-grefyddol. Apeliai'r Synagog newydd at y mewnfudwyr oedd wedi dianc o Ewrop a sgil effeithiau rhyfel, lle roedd y mudiad Diwygio eisoes wedi hen sefydlu. Mae'r gynulleidfa yn addoli mewn Capel Methodistaidd a drawsnewyidwyd, ar Moria Terrace, adeilad a gafodd ei brynu ganddynt yn 1952.

Ffynonellau: Wales Online (https://www.walesonline.co.uk/business/business-news/bogod-seeks-to-expand-2488049). 'The History of the Jewish Diaspora in Wales' by Cai Parry-Jones (http://e.bangor.ac.uk/4987); JCR-UK/JewishGen (https://www.jewishgen.org/jcr-uk/Community/card1/index.htm).

Storfa: Archifdy Morgannwg

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw