Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llun du a gwyn o glerigwyr ac aelodau o gymuned Iddewig Caerdydd; adnabyddedig: ABE Schwartz, J. E. Rivlin, y Parchedig Harris Jerevitch, y Parchedig Gershon Grey, M. J. Cohen, Rabbi Casnewydd (enw yn anhysbys), y Parchedig Harris Hamburg, Alter Rivlin, Rabbi Grunis. Y ffotograffydd oedd S. Edelmonn ac mae'r ffotograff wedi ei ddyddio 1932.

Ganwyd y Parch. Jerevitch yn Rwsia yn 1886. Fe'i penodwyd yn Weinidog a Phennaeth Synagog Heol y Gadeirlan, Caerdydd yn 1908, a gwasanaethodd y gymuned hyd ei ymddeoliad yn 1953.

Sefydlwyd Synagog Unedig Caerdydd yn 1942 pan unwyd Cynulliad Hebraeg Caerdydd a Chynulliad Newydd Hebraeg Caerdydd yn un sefydliad. Erys blynyddoedd cynnar cynulliada Caerdydd o dan len o ddirgelwch, ond gwyddys i fynwent Iddewig gael ei sefydlu yn 1841 ac i synagog bwrpasol gael ei adeiladu ar gyfer Cynulleidfa Hebraeg Caerdydd yn 1858 yn East Terrace. Wrth i'r gynulleidfa dyfu yn rhy fawr ar gyfer y safle, agorwyd synagog newydd ar Heol y Gadeirlan yn 1897. Yn 1889, gadawodd grŵp o fewnfudwyr diweddar yr "Englisher shul" i ffurfio'r "foreigners' shul" a adwaenid yn ffurfiol fel Cynulliad Hebraeg Newydd Caerdydd. Ar ôl i cyfnod cychwynol o ddechrau addoli yn Edward Place a Clare Road, symudodd y cynulliad newydd i adeiladwyd a godwyd yn bwrpasol ar eu cyfer yn Windsor Place yn 1918. Ar ôl y broses o ailuno yn 1942, parhaodd Synagog Unedig Caerdydd i ddefnyddio'r synagog yn Windsor Place ac yn Heol y Gadeirlan hyd 1955 pan werthwyd y cyntaf, ac adeiladwyd Synagog newydd ar Heol Ty-Gwyn. Gwerthwyd Synagog Heol y Gadeirlan yn y pen draw yn 1988 yn ogystal â Synagog Heol Ty-Gwyn yn 2003 gyda'r cynulliad yn symud i'w safle presennol yng Ngerddi Cyncoed.

Ffynonellau:
' The History of the Jewish Dispora in Wales ' gan Cai Parry-Jones (http://e.bangor.ac.uk/4987);https://jewishnews.timesofisrael.com/jewish-historians-in-wales-get-40k-national-lottery-boost-for-heritage-project/;
JCR-UK/JewishGen (https://www.jewishgen.org/jcr-uk/Community/card/index.htm).

Depository: Archifau Morgannwg

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw