Skip to main content

Middleton Memories - Linda Mitchell

Disgrifiadau

Symudodd Linda i 2, Y Neuadd yn rhan olaf 1952/dechrau 1953 gyda'i rhieni, Alfred a Margaret Thomas, a'i chwiorydd, Hazel a Wendy. Roedd hyn cyn i'r plasty gael ei chwalu, a soniodd Linda am gofio gweld yr hen adfeilion, ac iddi gael ei hannogg i gadw draw oddi wrthyn nhw gan fod gwiberod yn byw yn y rwbel. Symudodd y teulu o'r ystad yn 1957, ond roedden nhw'n dychwelodd yn rheolaidd i Lanarthne i ymweld â theulu.

Llun 1 - yn dangos Linda, Hazel, a Wendy (yn y drefn honno) yn yr ardd yn 2, Y Neuadd gyda'r adeiladau fferm a'r wal yn y cefndir.
Llun 2 - yn dangos Linda (ar y siglen) a Wendy (yn sefyll) gyda'r wal oedd yn gwahanu'r fferm a'u gardd yn y cefndir.
Llun 3 - Linda, Wendy, a Hazel (yn y drefn honno) yn sefyll wrth y drws oedd yn arwain at y gegin.
Llun 4 - yn dangos Margret Thomas (yn sefyll ar y dde) a Cassie Davies (yn sefyll ar y chwith) o flaen olion y plasty, gyda Linda, Wendy, a Hazel (yn y drefn honno) yn eistedd yn y blaen.
Llun 5 - Wendy a chi.
Llun 6 - Llun grŵp o nifer o drigiolion yr ystad. Yn eistedd ar fonet y car mae Wendy Thomas, Hazel Thomas a Janet Davies (o'r chwith i'r dde).
Yn sefyll mae hen ŵr anhysbys, Cassie Davies yn dal Diane a Moldwyn Davies (o'r chwith i'r dde), ac ar y to maee bachgen dieithr, Linda Thomas, a Hevina Davies (o'r chwith i'r dde).

Owner:
Linda Mitchell
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
12/9/2019
Gwelediadau:
719
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment