PARGUST yn suddo UC 29 (1917)
PARGUST yn suddo UC 29 (1917)
Disgrifiadau
Ar 7 Mehefin 1917, fe wnaeth llong danfor Almaenig UC 29 ymosod ar yr PARGUST ym Môr yr Iwerydd. Yn ystod yr ymosodiad daeth gorchuddion y gynnau yn rhydd, a gwirfoddolodd William Williams i aros ar ôl er mwyn dal y gorchuddion yn eu lle rhag peidio datgelu’r arfau yn rhy fuan. Aeth y criw decoy oddi ar y llong ar fadau achub. Wrth weld hyn, daeth UC 29 i’r wyneb gan agosáu at y llong. Pan oedd y llong danfor o fewn 50 troedfedd, tynnwyd y gorchuddion a thaniwyd y gynnau. Fe suddwyd UC 29 gyda 23 o bobl ar ei bwrdd.
Ffynhonnell: Henry Newbolt, Submarine and Anti-Submarine (1919).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment