Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dyddiad: 14 Tachwedd 1917

Trawsysgrif:
ER COF.

Llinellau er Cof ym Mr. William Roberts, Bodlondeb, Bryncrug, yr hwn a fu farw Mai 23ain, ynghyda'i ferch nurse jenny Roberts, yr hon a foddwyd yn suddiad yr Ysbyty-long “Salta,” Ebrill rofed, a'i fab, Liet. Griffith E. Roberts, yr hwn a laddwyd yn Ffrainc, Mehefin 7fed, yr oll y flwyddyn hon.

Trwy heulwen ddigymylau uwch ben y cartref cu
Tywynai heulwen cysur i loni'r dyddiau fu,
A'r Fam a'r Tad yng ngofal fel delfryd daear hardd,
A serch yn gwenu ar y plant fel haul ar flodeu'r ardd,
A hwythau wrth ddadblygu mewn lloniant a mwynhad
Yn cael arweiniad bore oes yn rhinwedd Man a Thad;
Dros deulu cu Bodlondeb aeth blwyddau teg fel hyn
A mwyn ehediad amser fel awen gwanwyn gwyn,
Nes dyfod y 'gwahanu' dan niwl pryderon chwith,
I ddwyn y plant o'r aelwyd lan fel adar dros y nyth;
Ond er gwahanu'r teuly, i rai ymdeithio 'mhell,
'Roedd gobaith teg pryd hynny yn ysgrifennu 'gwell'
Ar femrwn y dyfodol, a'r un yw gofal Ior,
A gweddi'r tad esgynai fry dros rai oedd hwnt i'r mor.

Ond duodd y ffurfafen uwch gwareiddiedig fyd--
Ymferwodd cefnfor rhyfel a'i donau'n waed i gyd;
Carlamodd chwyrn-farch distryw a heddwch dan ei garn,
A chynodd Ewrob drwyddi o dan dymhestloedd barn.

I ganol y rhyferthwy, ar alwad corn y gad,
Anturiodd bechgyn pybyr i ymladd dros eu gwlad,
A merched tyner-galon yng ngrym tosturi pur
Gymerent swydd yr Angel gwyn i weini ar ddeiliaid cur.

Rhoes teuly glân Bodlondeb un milwr yn y gad,
Ac un Weinyddes at y llu oedd yn ysbyttai'r wlad;
Ond yn ystormydd bywyd mae cariad yn cryfhau;
A serch y fam a gofal tad oedd yn ngeddiau'r ddau.

Daeth awel finiog Ebrill yn drwm gan newydd du,
Arswydodd fyd ystyriol--a hanes Jenny gu
Ar siwrnai caredigrwydd--dan ergyd anwar brad,
Yn boddi mewn ieuenctid ymhell y du ei thad.

Disgynodd y trychineb fel mellten glaer o'r nen
Ar deulu hoff Bodlondeb--daeth cwmwl du uwch ben
Hyfrydwch eu gobeithion--dyrchafodd galar gri;
A suddodd calon tad a mam fel suddai'r 'Salta' i'r lli.

Daeth heulwen Mai i wenu ar natur dros y wlad,
Ond ni wnai'r heulwen wella dim ar doriad calon tad;
A'i bryder dros rai annwyl a wasgai'i gur fwy fwy
O'i ofal anhunanol i gelu maint ei glwy!
Ma corff ac ysbryd bron yn un o dan ystormydd siom,
A thorrai'i iechyd yntau i lawr o dan y ddyrnod drom;
Bu farw--methodd natur a dal y baich yn hwy,
A chauwyd bedd o'r newydd i agor newydd glwy;
Bu farw'r Athraw ffyddlon a'i galon yn y gwaith,
Hyfforddiai blant ymhen eu ffordd a'i oes yn llathru'r daith;
Mewn ysbryd caredigrwydd gwnaeth ddysg i'r plant yn gân--
Bu'n arwr i'w ddisgyblion oll yng ngrym cymeriad glân;
By farw'r Cristion cywir--y swyddog hawliodd barch
Dros hir flynyddau'n Eglwys Dduw a'i ysgwydd dan yr arch:
Cymydog cymwynasgar a'r cyfaill cywir sy'
A'i goffadwriaeth heddyw'n fyw yn serch calonnau lu;
By farw'r priod tirion, a'r tad gofalus cu,
Wnaeth eglwys ac athrofa i'r teulu yn ei dy;
A thros y brudd awyrgylch uwchben yr aelwyd dlos
Daeth cwmwl ar dywyllwch, a chaddug yn y nos.

'Roedd blodau teg Mehefin fel tlysau natur werdd,
A'r adar mewn ysgafnder yn swyno'r oll a'u cerdd,
Pan fflachiwyd newydd arall i'r teulu o faes y gad
Fod Griffith wedi syrthio yn aberth dros ei wlad;
Y Bachgen ieuanc roddai i hoff obeithion teulu sail,
A blodau addewidion oes heb orffen lledu'u dail;
Yn arwr yn mhlith arwyr, fel Cymro dewr ei fryd,
Bu farw yn wynebu gelynion rhyddid byd.

I son am gur a weddw-fam rhy wan yw geiriau'n awr;
Mae llygad wel i ddyfnder clwyf, a gras all ddangos gwawr
“Uwchlaw cymylau amswer”--gall ei ddiddanwch Ef
Roi cysur eto i'r teulu prudd pan fyddo dua'r Nef.

'Roes amser on rhyw gafnod byr rhwng galwad ola'r tri;
Ond pell yw'r bedd ar faes y gad, a bedrodd dwfn y lli
O fynwent dawel Towyn--er hynny dengys ffydd
Y tri'n cyfarfod ar y lan lle gwawria bythol ddydd
Yng ngoleu y tangnefed sy'n nghariad Iesu cu,
'Rol colli deigryn olaf “yn yr Iorddonen ddu.”

GEUFRONYDD.


Ffynhonnell:
Geufronydd [pseud.] 'Colofn y Beirdd: [...] “Er Cof”.' Y Cymro. 14 Tach. 1917. 11.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw