Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dyddiad: 26 Gorffennaf 1917

Trawsysgrif:

[llun Evan Price]

Pleser ydyw rhoddi darlun i ddarllenwyr y "Drych" o Gymro adnabyddus yn ein mysg, sef y cyfaill Evan Price. Bu Evan yn gweithio yn Bangor, a Wilkes-Barre, Pa.; Cleveland, Ohio; talaeth Maine; Granville a'r cylch, ac Ilion, N. Y. Mab ydyw i'r diweddar James a Margaret Price, o Carmel, sir Gaernarfon, ac y mae yn y wlad hon er's amryw flynyddau, ac fel bob Cymro yn caru ei wlad, ac unodd a'r llynges Brydeinig tua tri neu bedwar mis yn ol. Yn awr y mae ar y "Mine Sweepers" yn rhywle o amgylch Prydain Fawr yn casglu rhai o'r "pea nuts" ag mae'r Ellmyniaid wedi eu rhanu ar y mor. Yn ddiau, y mae dymuniadau goreu yn cael eu hanfon iddo oddiwrth ei holl gyfeillion yn y wlad hon, a hyderwn y caiff ddychwelyd i'n mysg yn iach a diglwyf. Bydd gair o'i brofiad yn sicr o fod yn dderbyniol, ac edrychir yn mlaen am yr holl hanes ar ei ddychweliad i'r wlad hon.—Nem Roberts.


Ffynhonnell:
Heb teitl. Y Drych. 26 Gorff. 1917. 5.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw