Prism y goleudy, Ynys Lawd, Caergybi [Delwedd 1 o 6]
Prism y goleudy, Ynys Lawd, Caergybi [Delwedd 1 o 6]
Disgrifiadau
Wrth ymgymryd 'r gwaith o foderneiddio goleudy Ynys Lawd ym 1999, gostyngwyd maint y prif lamp o 1000 o wattiau i 150 watt, er mai dim ond o bum milltir ar hugain i ugain milltir y byrhawyd cyrhaeddiad y golau.
Mae'r peirianwaith sy'n cynnal prism y goleudy wedi ei rannu yn ddwy ran. Bath sefydlog yw'r rhan allanol a'r rhan fewnol yn arnofyn. Yn y bwlch cul rhwng y bath a'r arnofyn mae haen o arian byw sy'n cynnal holl bwysau'r lens a'r arnofyn. Mae hyn yn creu traul sydd bron yn ddiffrithiant. Yn wir, er bod y lens a'r arnofyn yn pwyso tunelli lawer, mae pwysau un bys yn ddigon i'w troi.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment