Skip to main content

Tudalen deitl y gyfrol 'Twm Shon Catti', 1872 [delwedd 1 o 9]

Disgrifiadau

Addasiad Cymraeg o'r gyfrol 'The adventures and vagaries of Twm Shon Catti' gan T. J. Llewelyn Prichard. Ymddangosodd y gyfrol wreiddiol ym 1828 ond cafodd yr addasiad Cymraeg hwn gan Eilonydd ei gyhoeddi ym 1872 gan John Pryse o Lanidloes. Ar y tudalennau canlynol, gallwch weld wyth o dorluniau pren o'r gyfrol gan E. Salter.

Ganed Twm Siôn Cati neu Thomas Jones (c. 1530-1609) yn Porthyffynnon, ger Tregaron. Roedd yn fardd, hynafiaethydd ac olrheiniwr achau, ac ef oedd stiward arglwyddiaeth Caron ar un cyfnod. Mae Twm Siôn Cati yn fwyaf adnabyddus, fodd bynnag, fel lleidr pen ffordd. Tyfodd nifer o chwedlau amdano a'i weithgareddau, ac fe gafodd ei ystyried, yn gam neu'n gymwys, yn 'Robin Hood Cymru', oherwydd yr hen goel ei fod yn dwyn oddi ar y cyfoethog ac yn rhoi i'r tlawd.

Owner:
Brecon Library
Crëwr:
Eilonydd
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Aberhonddu
Copyright Details:
Llyfrgell Aberhonddu 2004
Publisher Ref:
GTJ76762
Eitem wedi’i llwytho:
18/2/2010
Date originally created:
1872
Gwelediadau:
1056
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment