Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Mae’r Tylwyth Teg yn ymddangos yn aml mewn storïau o bob cwr o Gymru. Mae'r tylwyth teg sy’n cael eu hadnabod fel Plant Rhys Ddwfn weithiau'n ymddangos fel môr-forynion yn llên gwerin Sir Benfro.

Stori
Yn Sir Benfro, mae’r tylwyth teg yn aml yn cael eu hadnabod fel Plant Rhys Ddwfn, a’r gair 'dwfn' yn cyfeirio yma at ddyfnder cymeriad. Mae'r tylwyth arbennig yma yn fach, yn debyg o ran eu maint i blentyn 5 neu 6 oed. Weithiau, mae'r menywod yn hanner dynol ac yn debyg i fôr-forwyn. Dywedir eu bod yn byw ar nifer o ynysoedd sy'n ymestyn ar draws Bae Ceredigion, o Sir Benfro yn y de i benrhyn Llŷn yn y gogledd. Mae ynysoedd Rhys Ddwfn yn anweladwy i'r llygad dynol, ac eithrio o un man penodol ym Mhen Cemaes, rhyw 20km i'r gogledd o Abergwaun. Yn ôl y chwedl, mae perlysiau arbennig yn tyfu ar lain heb fod yn fwy na metr o led, ac o’r fan honno, byddai'r ynysoedd yn weladwy i lygaid dynol.

Am gyfnod hir, byddai Plant Rhys Ddwfn yn mynd i'r farchnad yn Aberteifi. Fyddai neb yn eu gweld yn mynd neu’n dod; rywsut roedden nhw yno, yn falch o dalu arian da i'r masnachwyr am y nwyddau oedd ar gael. Pryd bynnag roedd y prisiau'n uchel ar ddiwrnod y farchnad, dywedid bod Plant Rhys Ddwfn wedi bod yn y dref. Oherwydd hyn, doedden nhw ddim yn boblogaidd iawn ymysg y prynwyr eraill, oedd yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd, ac felly dechreuodd y tylwyth teg fynd i farchnad Abergwaun. Ym 1896, cofnododd y Pembroke County Guardian sylwadau menyw o Abergwaun a oedd yn cydnabod eu bod yn bresennol, ond yn bellach i'r dwyrain, gan ddweud, ‘There are fairies for they came to Ha’rfordwest market to buy things, so there must be.’

Ar adegau eraill, ymddangosai Plant Rhys Ddwfn o amgylch ardal Abergwaun ar ffurf morforynion yn eistedd ar greigiau ac yn cribo’u gwallt. Ym 1858 yn ôl y sôn, daeth Daniel Huws ar draws môr-forwyn rhwng Tyddewi ac Abergwaun. Heblaw am ei chynffon pysgodyn dywedwyd ei bod yn edrych 'fel merched Cymru' a’i bod yn siarad Cymraeg â'r dynion a aeth ati, cyn diflannu yn ôl i'r môr. Ar achlysur arall, cafodd môr-forwyn ei gweld y tu allan i Abergwaun yn Llanwnda, lle'r oedd y Ffrancwyr wedi gwneud ymdrech aflwyddiannus ym 1798 i ymosod ar Brydain. Cafodd ei chipio gan y dynion a’i gwelodd hi, ac aethon nhw â hi adref gyda nhw. Dim ond ar ôl rhoi tri chyngor iddyn nhw y cafodd ei rhyddhau, ac fe gofiodd y teulu’r cynghorion hynny am byth wedyn.

Ym 1910, soniodd papur newydd lleol arall, The Pembrokeshire Herald and General Advertiser, am ddigwyddiad rhyfedd ym Mhen-caer, Abergwaun. Rhuthrodd menyw dan orchudd i Fwthyn Garnfawr, a oedd ar y pryd yn wag heblaw am ferch fach. Gwyliodd y ferch wrth i’r fenyw fynd o’r naill ystafell i’r llall, gan chwilio drwy holl eiddo'r teulu fel pe bai'n chwilio am eitem a gollwyd, ond heb gymryd dim. Yna dringodd yr ysgol i'r groglofft, ond cafodd ei dal yno gan y ferch a dynnodd yr ysgol. Serch hynny, dihangodd y fenyw drwy neidio drwy un o'r ffenestri heb adael dim olion. Oherwydd ei gwisg a'i hymddygiad rhyfedd, roedd pobl yn meddwl mai môr-forwyn oedd wedi ymweld â Bwthyn Garnfawr, ar ôl dod o'r môr ym Mhwllderi gerllaw.

Tamaid hanesyddol
- Mae teyrnas anweladwy Rhys Ddwfn yn cyffinio’n fras â Chantre’r Gwaelod, teyrnas enwog Gwyddno Garanhir a foddwyd o dan donnau Bae Ceredigion.

- Awgrymwyd mai masnachwyr o Iwerddon oedd Plant Rhys Ddwfn mewn gwirionedd, wedi croesi Môr Iwerddon i werthu eu nwyddau ym marchnadoedd Cymru.

- Ynys Gwales yw un o ynysoedd hud y Mabinogi. Yn ôl y chwedl, bu pen Bendigeidfran yn gorffwys yno am 80 mlynedd ar ôl ei frwydr â brenin Iwerddon, Matholwch. Credir bod Gwales yn rhan o deyrnas Rhys Ddwfn.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw