arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Disgrifiad

Dyddiad: 27 Gorffennaf 1915

Trawsysgrif:

[llun B. Williams]

Capt. B. Williams, Felinheli.

Y mae Llywodraeth Norway wedi anrhegu Capten B. Williams, The Cliffe, Felinheli, yr hwn ag y mae ei ddarlun uchod, gyda chwpan arian ac arni arf a baner Norway. Tra ar fordaith i Lundain gwelodd Capten Williams pan gyferbyn a Scarborough yr agerlong "Eli" o Norway yn suddo o ganlyniad i daro yn erbyn mine Germanaidd. Aeth yr "Alastair" llestr Capten Williams, i gynorthwyo'r dwylaw, y rhai a laniwyd yn Scarborough.


Ffynhonnell:
Heb teitl. Y Genedl. 27 Gorff. 1915. 6.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw