Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae dydd Sul 16 Mehefin 2019 - sef, yn ddigon priodol, Sul y Tadau - yn nodi 75 mlynedd ers marwolaeth David Davies, sefydlydd Teml Heddwch ac Iechyd Cymru, Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a llawer o sefydliadau eraill a ddatblygodd ei weledigaeth i adeiladu byd gwell. Bu farw ym 1944, ychydig fisoedd cyn i waith ei fywyd gael ei wireddu ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, creu'r Cenhedloedd Unedig a genedigaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae ei etifeddiaeth wedi galluogi cenedlaethau o bobl ifanc, gwirfoddolwyr, gweledyddion a llunwyr heddwch i lywio rôl Cymru yn y byd.
Mae Craig Owen wedi dwyn ynghyd 'fywgraffiad byr' ar gyfer y dyn anhygoel hwn, gan guradu ymchwil, adnoddau a chysylltiadau o Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru ar gyfer #gwirfoddolwyr Heddwch a #partneriaid dros 2014-18. Bydd Craig yn cyflwyno Darlith #Gweledigaethau #Heddwch Gŵyl Gregynog ar 29 Mehefin 2019, gan nodi canmlwyddiant Cytundeb Heddwch Paris a ddaeth â'r Rhyfel Byd Cyntaf i ben.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw