Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll yn Iberia Newydd, Louisiana, at ei deulu yn Beaver Dam, Wisconsin, 12 Tachwedd 1863 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Mae John wedi symud ymlaen erbyn hyn ac mae'n sôn am y frwydr ddiwethaf sef brwydr Carrion Crow Bayou. Dywed
'yr oudd ein Brigade ni yn rhifo 1000.46 for duty cin y frwydyr. Deuthom allan hefo ychydig dros 400 yr holl Brigade gallwch feddwl fod yno le pur bouth i golli cymaint a hynu mewn cyn lleiad o amser yr ouddwn yn meddwl fod y diwedd wedi dyfod...'
Mae John yn mynd ymlaen i ddweud nad oedd yn barod i roi ei hun i'r 'rebels' ac bod trefn rhagluniaeth yn ei amddiffyn. Mae'n enwi rhai o'r rhai a glwyfwyd neu a laddwyd.
Mae John wedi prynu pâr o esgidiau a dwy botel o 'biters', y ddau yn costio pedair doler. Dywed fod yn rhaid iddo brynu llawer o bethau er mwyn puro'r gwaed oherwydd eu bod yn yfed dŵr mor wael drwy'r amser. Dywed fod ei iechyd yn rhagorol ar hyn o bryd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment