Skip to main content

Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o Vermillion, Louisiana, at ei deulu yn Beaver Dam, Wisconsin, 6 Tachwedd 1863 [tudalen 1 o 4]

Disgrifiadau

Mae John yn disgrifio ei ran ym mrwydr Carrion Crow, Bayou, ac yn dweud ei fod yn credu mai hwn oedd brwydr fwyaf gwaedlyd y tymor.

Mae'n dechrau ei lythyr drwy ysgrifennu
'yr ydwyf yn caul y fraint anferthol[?] och hysbysu fy mod ar dir y byw ac yn mwynhau fy iechid mewn modd da'

Mae'n mynd ymlaen i ddweud fod y gwrthryfelwyr wedi ymosod arnynt am bump o'r gloch y bore ond dechreuodd y brwydro o ddifri am ddau o'r gloch y prynhawn. Dywed John mai dim ond eu brigâd nhw oedd yn brwydro ac mae'n mynd ati i restri'r catrodau. Dywed fod gan y gwrthryfelwyr ddwy frigâd o wŷr traed a phymtheg cant o wŷr meirch.

Daeth atgyfnerthiadau i ochr yr Undeb tua hanner awr yn rhy hwyr a bu rhaid iddynt syrthio yn ôl i'r coed. Ond ar ôl ychydig o amser, ail ymosododd y rhai oedd yn weddill a gyrasant y gwrthryfelwyr yn ôl gan eu 'mali i'r llawr'. Erbyn hyn, dim ond pump oedd ar ôl yng Nghwmni G.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Jones, John Griffith, Corporal
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2010
Publisher Ref:
GTJ26216
Eitem wedi’i llwytho:
17/2/2010
Date originally created:
6/11/1863
Gwelediadau:
351
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment