Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll Rocky Springs, at ei rieni yn Beaver Dam, Wisconsin, 10 Mai 1863 [tudalen 1 o 2]
Disgrifiadau
Mae John yn disgwyl y bydd y rhyfel drosodd cyn hir. Fo a J. W. Jones yw'r unig Gymry ar ôl yn y fintai gan fod Rees Cook yn sâl yn yr ysbyty. Nid yw wedi clywed dim ond unwaith gan T. E. Hughes ers iddo ei adael yn y 'Bend'. Roedd yn canmol ei le ac yn dweud fod digon o fwyd hawdd i'w fwyta.
Maent o fewn pedair milltir i'r 'Black River' ac maent wedi clywed fod y gwrthryfelwyr am 'roddi gwrthsafiad yno riwla'. Mae'n sôn unwaith eto am y frwydr yn Port Gibson a dywed
'nid wyf yn gwybod am ddiwrnod tebyg ir first of May yr oudd twrw y magnelau ar llaw ddrilliau yn arswydus iw glowad nid allaf ei ddisgrifio ar bapur'
Dywed hefyd eu bod wedi llosgi pont Gibson a'i fod wedi clywed eu bod yn mynd tuag at Vicksburg o fewn y tair wythnos nesaf.
Gofynna os oes llawer o flodau ar y coed afalau ac eirin.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment