Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll Willow Springs, Louisiana, at ei rieni yn Beaver Dam, Wisconsin, 6 Mai 1863 [tudalen 1 o 2]
Disgrifiadau
Yn y llythyr hwn, mae John yn disgrifio brwydr Port Gibson. Roedd hon yn frwydr bwysig yn hanes y rhyfel. Er i'r Undebwyr golli llawer o ddynion, arweiniodd eu buddugoliaeth yn y pen draw at gwymp Vicksburg.
Dywed John Griffith Jones iddo gymryd rhan mewn 'brwydr ofnadwy arall' mewn lle o'r enw Grand Gulf, Mississippi. Cychwynnodd y frwydr ar y 28ain o Ebrill a bu'r 'gun boats' yn tanio o wyth o'r gloch y bore tan dri o'r gloch y prynhawn ar y diwrnod hwnnw. Ymunodd John â'r frwydr am saith o'r gloch y bore ar y 30ain o Ebrill
'agorodd y frwydur hanner nos parhaodd trwy y dydd'.
Yn ôl John, cymerodd y 23ain Catrawd tua hanner cant o garcharorion rhyfel a chymerwyd tua dwy fil o garcharorion gan yr Undebwyr. Disgrifia hefyd faes y gad
'Cafodd un regiment or rebels ei lladd braidd bob un yr ouddynt yn donau ar hyd y ddeuar'
Dywed fod dau o swyddogion y gwrthryfelwyr wedi dod atynt gyda 'flag of truce' gan geisio sicrhau caniatâd i gael claddu eu meirw drannoeth. Ni roddwyd caniatâd iddynt.
Yn ôl John, nhw oedd y rhai cyntaf mewn i dref Port Gibson, Mississippi. Dywed eu bod yn awr o fewn tri deg milltir i Vicksburg ac mae'n siŵr mai i'r fan hynny y byddant yn mynd nesaf.
Mae'r gwrthryfelwyr wedi llosgi nifer o bontydd ar eu holau ond yn ôl John, nid yw hyn yn broblem gan eu bod yn medru adeiladu 'floating bridge' mewn awr neu ddwy.
Dywed fod y bechgyn o Gymru i gyd allan yn fyw ac yn iach a bod nifer fawr o Gymry yn y catrodau eraill gan gynnwys tua chant yn y '56 Ohio' a chryn nifer yng nghatrodau Iowa.
Diolcha am y llythyrau ac am gopïau o'r Drych.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment