Skip to main content

Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, o wersyll Millikens, Louisiana, at ei rieni yn Beaver Dam, Wisconsin, 30 Mawrth 1863 [tudalen 1 o 4]

Disgrifiadau

Dywed John fod yr '11th Wisconsen Regiment' wedi cyrraedd ers wythnos a bod llawer o Gymry yn y fyddin. Mae'n cyferio at y cynnwrf sydd yn Wisconsin ynglŷn â'r drafftion ac mae'n cynghori ei frodyr yn daer i beidio ag ymuno

'gair at Richard a Owen fy mrodur yr ydach chwi ych dau yn rhu ifanc ir drafft peidiwch a listio tra y cewch aros gatra gwrandewch fel ydwi yn dweud peidiwch a gwneud fel ydwi yn gwneyd nid iw difar geynnyf eto fy mod wedi dyfod yr ydwyf yn meddwl yn gryf y caf ddyfod adra eto pryd y bydd hynu nid wyf yn gwybod...'

Mae hefyd wedi clywed eu bod yn mynd i fyny'r afon i Kentucky ac mae'n gobeithio fod hyn yn wir, er ei fod yn clywed gymaint o sibrydion nid yw'n gwybod yn iawn beth sy'n gywir.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Jones, John Griffith, Corporal
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2010
Publisher Ref:
GTJ26091
Eitem wedi’i llwytho:
17/2/2010
Date originally created:
30/3/1863
Gwelediadau:
454
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment