Skip to main content

Llythyr oddi wrth Corporal John Griffith Jones, ger Memphis, at ei rieni yn Beaver Dam, Wisconsin, 14 Rhagfyr 1862 [tudalen 1 o 4]

Disgrifiadau

Nid ydynt wedi derbyn eu tâl eto ac mae'n gofyn i'w rieni anfon arian ato gan fod ei arian wedi darfod ers pythefnos. Mae'n disgwyl derbyn ei gyflog ddiwedd y mis 'os byddaf byw'.
Mae'n well ganddo'r hinsawdd yma nac yn Wisconsin ac mae'n mwynhau bywyd milwr yn y camp
'nid oyddwn yn leicio ar y dwr gystal ar tir...'
Mae'n sefyll ar y piced unwaith bob deg diwrnod ac ar y 'camp guard' unwaith bob chwech diwrnod.
Mae eisiau gwybod pwy sy'n cadw'r ysgol yn y 'scool house' ac hefyd mae'n holi
'syd may pethay yn mynd o gwmpas hefo y drafting soldiars yn nghyd a phethay eraill'.
Mae wedi gweld fod y rhai sy'n cael eu drafftio yn cael eu hanfon i lenwi'r hen gatrodau ac nid yw eisiau gweld yr un o fechgyn Cymru o ardal Salem yn gwneud hynny. Mae'n well iddynt ddianc ac ymrestru os y gallant wneud hynny.
Tua diwedd ei lythyr mae'n dweud
'i may gennyf obaith cruf y caf ddyfod adra cin pen hir iawn i may yn agos i bedwar mis ers pan ydwi yn caro arfay'.
Nid ydynt wedi clywed dim gan Fred.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Jones, John Griffith, Corporal
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2010
Publisher Ref:
GTJ26049
Eitem wedi’i llwytho:
17/2/2010
Date originally created:
14/12/1862
Gwelediadau:
539
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment