arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Hyfforddodd William Turner gyda John Varley ac arddangosodd ei waith yn rheolaidd yn yr Hen Gymdeithas Ddyfrlliw drwy gydol ei oes. Teithiodd ar draws Lloegr a Chymru o 1815 ymlaen a bu'n byw yn Rhydychen ar ôl 1833 ble bu'n dysgu peintio yn defnyddio dyfrlliwiau i amaturiaid diwylliedig y Brifysgol. Disgrifia Nicholson's Cambrian Traveller's Guide ym 1840 Gapel Curig fel ''a few cottages situated between Llanrwst and Caernarvon on the London and Holyhead road... a guide to Snowdon and Glyder Bach may be had here. The vale of Capel Curig is bounded by Snowdon and his surrounding mountains,affording a most picturesque landscape. Here is that variety of wood and water, in which many of the Welsh vales are defective.''

Testun gan: Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw