arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Llong hwylio hefyd oedd y DUMFRIESSHIRE a suddwyd ar 28 Mehefin 1915 gan yr U 24. Roedd yn teithio o San Francisco i Ddulyn yn cario haidd. Arhosodd 30 o’r goroeswyr yn y Bethel. Dywedodd un o’r criw iddynt ddianc ‘o drwch blewyn’ yn y badau achub gan i’r llong suddo mewn llai na pum munud ar ôl cael ei daro gan dorpido. Agerlong oedd yr ARMENIAN a suddwyd gan yr U 24 ar 28 Mehefin 1915 wrth deithio o Newport News, Virginia i Avonmouth gyda llwyth o fulod. Codwyd dynion o bum bad achub llawn (cyfanswm o 128) a’u cludo i Aberdaugleddau.

Ffynonellau:
Haverfordwest and Milford Haven Telegraph; Welsh Newspapers Online.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw