Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cerdyn busnes wedi ei argraffu ar gyfer 'Rabbi Asher Grunis (o Gaerdydd)'. Isod mae llinell o destun mewn Hebraeg. Mae'r cyfeiriad wedi ei newid o 39 Craddock Street i 21 De Burgh Street, Caerdydd.
Mae eitem arall yn yr archif (llythyr i bapur newydd sydd gyda'r cyfeiriad wedi'i newid) yn dangos mai oddeutu mis Tachwedd 1928 y bu'r newid cyfeiriad hwn.
Ganwyd Rabbi Asher Grunis yn Pietrokov yng Ngwlad Pwyl yn 1877. Roedd yn blentyn disglair ac yn bedair ar bymtheg oed fe'i penodwyd yn Rabbi Wilczyn yng Ngwlad Pwyl. Priododd Hannah Baila yn1896 a chawsant saith mab ac un merch. Yn 1921 fe'i penodwyd yn Rav Caerdydd, gan oruchwylio sicrhau bod deddfau dietegol crefyddol Iddewg yn cael eu rhoi ar waith yn gywir. Daeth pump o'r meibion ac un ferch gyda'u rhieni i Gaerdydd, ac aeth un mab, Hirsch, ymlaen i fod yn weinidog yng nghymunedau Bangor a Betws-y-Coed cyn y rhyfel. Bu Rabbi Grunis yn llwyddiannus yn ei ymgyrch i ganiatáu i blant Iddewig gael gadael yr ysgol yn gynnar yn y gaeaf ar y Sabath, ac i rwystro myfyrwyr Iddewig gael eu gorfodi i sefyll arholiadau ar ddyddiau Sadwrn a dyddiau sanctaidd Iddewig. Ymdrechodd i sicrhau bod bwyd kosher ar gael i garcharorion Caerdydd gydol y flwyddyn hefyd ond ni fu'n llwyddiannus yn hyn o beth. Bu farw ym mis Gorffennaf 1937 ac y mae ef a'i wraig wedi eu claddu ym mynwent Iddewig Highfields Jewish/ Cafodd un o'i weithiau mwyaf, yn dwyn yr einw P’ri Asher (Ffrwythau Asher), ei gyhoeddi wedi ei farwolaeth. [Ffynonellau: Tudalen 43 o Bimah rhifyn 18 (Pesach 5759 - 1999) a rhagarweiniad i Fruits of Asher gan Rabbi Asher Grunis a'i fab Iyeleg Grunis]
O archifau teulu Grunis, sydd i'w cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol (Campws Edward J. Safra) yn y Brifysgol Hebraeg, Jerwsalem.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw