Parc Victoria a Neuadd y Dref, Abertawe

Eitemau yn y stori hon:

  • 2,006
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,358
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,015
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,535
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 869
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,149
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Parc Victoria a Neuadd y Dref, Abertawe




Agorwyd Parc Victoria, un o barciau cyhoeddus gorau Abertawe, ar Ddiwrnod y Jiwbili, 1887. Mae ffurf gryno'r parc a'i gerddi ffurfiol heddiw'n cuddio'r ffaith yr oedd yn safle llawer mwy nes adeiladu Neuadd y Dref yn y 1930au. Roedd y meysydd chwarae niferus ar ochr orllewinol Parc Victoria yn feysydd chwarae cartref i lawer o dimau pêl-droed a rygbi lleol ar ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif. Am y rhan fwyaf  o'r 1890au, roedd Parc Victoria yn lleoliad weddol syml gydag ychydig o'r cyfleusterau sy'n arferol ym mharciau cyhoeddus y cyfnod, fel gerddi rhosod, rhodfeydd yn y coed a safleoedd seindorf. Byddai'r rhain yn cael eu gosod yn y cyfnod Edwardaidd, ac erbyn dechrau'r Rhyfel Mawr ym 1914, roedd y safle wedi newid yn llwyr.




Gosodiadau Edwardaidd




Y cyntaf o nifer o osodiadau Edwardaidd i'w dadorchuddio oedd y safle seindorf a agorodd ar 14 Mai 1903 ac a oedd ger canol y parc gwreiddiol yn edrych dros Fae Ystumllwynarth. Roedd cynlluniau cynnar am safle seindorf yn dyddio o 1888 ond bu dadleuon ynghylch y dyluniadau: roedd rhai o gynghorwyr Abertawe o'r farn y dylai safle seindorf Parc Victoria fod yn wahanol i'r un ym Mharc Cwmdonkin




Cerflun William Thomas




Codwyd cerflun enwog William Thomas, 'pencampwr llecynnau agored', a oedd mewn safle blaenllaw ym Mharc Victoria'r 21ain ganrif, ym 1906 ac fe osodwyd rhodfa gyda choed drwy'r parc yn cysylltu Francis Street ac Oystermouth Road. Wrth y brif fynedfa, mynedfa Neuadd y Dref heddiw, roedd rheiliau haearn coeth a chofeb  Rhyfel De Affrig. Dadorchuddiwyd y gofadail ar 15 Ebrill 1904 gan Faer Abertawe, Griffith Thomas. Costiodd £500 i'w hadeiladu ac fe dalwyd amdani gan y cyhoedd. Pan adeiladwyd Neuadd y Dref a chollwyd hanner dwyreiniol Parc Victoria, symudwyd y cerflun hwn i'w safle presennol yn edrych dros Fae Ystumllwynarth.




Pafiliwn Patti




Yn tra-arglwyddiaethu ar y Parc Victoria modern mae'r adeilad hwn, Pafiliwn Patti, a oedd unwaith yn ardd aeaf y Soprano Opera enwog, Y Fonesig Adelina Patti, yn ei stad Craig-y-nos yng Nghwm Tawe uchaf. Penderfynodd Y Fonesig Patti gymynroddi'r ardd aeaf i'r dref pan fyddai'n marw (ym 1919), oherwydd ei chysylltiad agos ag Abertawe a'r cylch. Ail-godwyd yr adeilad yn ei safle presennol ym 1920 ac fe gafodd ei alw'n Pafiliwn Patti.




Neuadd y Dref




Dechreuwyd adeiladu Neuadd y Dref, a agorwyd gan Dywysog Albert, Dug Caint (Brenin Siôr VI yn ddiweddarach), ym 1930 ar ochr ddwyreiniol Parc Victoria. Roedd yn gyflawniad dymuniad Cyngor Bwrdeistref Sir Abertawe i gael datganiad mwy trawiadol am hunaniaeth y dref nag adeiladau gwreiddiol y cyngor yn y dociau (Canolfan Dylan Thomas heddiw). Dewiswyd y safle ym Mharc Victoria yn rhannol oherwydd y golygfeydd, ond yn bennaf gan mai'r cyngor oedd yn berchen ar y tir ac felly ni fyddai'n rhaid iddo ddelio â thirfeddianwyr preifat. Gyda chyllideb o £300,000 a chynllun gan Percy Thomas, pensaer o Gaerdydd, roedd hunaniaeth drefol newydd Abertawe'n cael ffurf solet.



Yn bensaernïol, mae Neuadd y Dref Abertawe'n enghreifftio gosgeiddigrwydd syml moderniaeth gydag ambell addurn i gysylltu'r adeilad ag Abertawe. Yn benodol: y tŵr cloc a ddyluniwyd i roi'r argraff o gwch hir o Lychlyn ac sy'n cydnabod Sweyn Forkbeard a gwreiddiau Llychlynnaidd Abertawe.




Parc Victoria yn y 21ain ganrif




Mae Parc Victoria yn yr unfed ganrif ar hugain yn parhau i gael ei ddefnyddio. Mae cyfleusterau chwaraeon modern ar gyfer pêl-fasged, BMX a sglefr fyrddio, yn ogystal â chwaraeon traddodiadol fel tennis a bowlio. Mae estyniad gorllewinol Pafiliwn Patti a agorodd yn ddiweddar yn gartref i fwyty Indiaidd a neuadd gyngherddau. Mae gwelyau blodau ffurfiol a'r cloc blodau sy'n cadw naws Oes Victoria'r parc yn parhau i ddenu ymwelwyr i mewn i galon cwr dinesig glan môr Abertawe.



Daryl Leeworthy, RCAHMW.